Syniadau am fyrbrydau iach
Gall byrbrydau iach fod yn gyfle gwych i roi’r prif faetholion sydd eu hangen ar eich plentyn ar gyfer iechyd a datblygiad cyffredinol. Ceisiwch ganolbwyntio ar gynnig byrbrydau o’r prif grwpiau bwyd
- Ffrwythau a Llysiau
- Carbohydradau – bara, reis, tatws, pasta a grawnfwydydd eraill
- Protein – cig, pysgod, wyau a ffa
- Llaeth a chynnyrch llaeth
Rydym yn gwybod nad yw plant yng Nghymru yn bwyta digon o fwydydd o’r grŵp bwyd ffrwythau a llysiau. Mae byrbryd yn gyfle gwych i gynnig y bwydydd hyn naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â grŵp bwyd arall, er enghraifft gallech roi cynnig ar ychwanegu ffrwythau at iogwrt neu ychwanegu llysiau at gacen reis. Gallech hefyd roi cynnig ar ein rysáit Wynebau Ffrwyth.
Mae carbohydradau yn rhoi’r egni sydd ei angen ar blant i fod yn actif felly gallant fod yn syniad gwych am fyrbryd. Ond cofiwch sicrhau nad oes ganddynt fraster, siwgr na halen ychwanegol. Gallai rhai byrbrydau carbohydrad gynnwys cacennau reis, cacennau ceirch, wrap bach neu dost. Gallwch hefyd ychwanegu rhai ffrwythau neu lysiau atynt i roi hwb i’r fitaminau a’r mwynau.
Rydym yn gwybod y gall bwydydd protein wneud i blant deimlo’n fwy llawn am gyfnod hirach, wrth ddarparu ffynhonnell dda o haearn hefyd. Gall byrbrydau gynnwys menyn cnau, wyau a hwmws.
Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn darparu calsiwm a phrotein i blant, sy’n bwysig ar gyfer esgyrn a dannedd cryf. Gall bwyta’r bwydydd hyn fel byrbrydau helpu i sicrhau eu bod yn cael digon o’r maetholion hyn. Gallech roi cynnig ar iogwrt plaen gyda ffrwythau ychwanegol neu gaws ar graceri
Yn aml, gall opsiynau byrbryd llai iach olygu rhoi llawer o fraster, siwgr a halen i blant. Ceisiwch gyfyngu ar fwydydd fel creision, siocled, cacennau, losin, bisgedi a hufen iâ.
Mae hefyd yn bwysig ystyried faint o’r rhain y mae eich plentyn yn bwyta. Gall gormod o fyrbrydau eu llenwi, gan eu gwneud yn llai tebygol o fwyta eu prif bryd bwyd. Fel canllaw, gallwch gynnig 2 fyrbryd iach bob dydd. Mae plant wrth eu bodd yn paratoi byrbrydau iach, felly ceisiwch eu hannog i helpu i daenu bwydydd a’u cefnogi i dorri bwydydd.
Dyma rai syniadau am fyrbrydau sy’n cynnwys rhai o’r prif grwpiau bwyd:
AWGRYM – Cofiwch edrych ar label byrbryd eich plentyn i sicrhau ei fod yn ddewis iach!
Sardîns ar dost gyda seleri
Cramwyth (crumpets) gyda chaws meddal a sleisiau pupur
Brechdanau bach afocado a salsa tomato
Cacennau ceirch gyda menyn cnau Brasil a satswmas
Fideo siwgr mewn byrbrydau a diodydd
Animeiddiad hoff fyrbrydau
Aelodau tîm NYLO yn siarad am eu hoff fyrbrydau.