Dolenni Defnyddiol

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd  

Cardiff Family Gateway - Cardiff Family Advice and Support : Cardiff ...

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gall y Tîm ddarparu gwybodaeth a chyngor ar ystod o agweddau ar fywyd teuluol gan gynnwys: ymddygiad plant, gofal plant, cymorth i rieni, presenoldeb yn yr ysgol a chyflogaeth, arian a thai. 

Llinell Gyngor Therapi Iaith a Lleferydd Plant o dan 5 oed 

Gellir defnyddio’r llinell gyngor hon, a sefydlwyd gan dîm Therapi Iaith a Lleferydd Plant BIPCAF, i gael awgrymiadau ar ffyrdd o helpu sgiliau cyfathrebu eich plentyn. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn gallu rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am sut mae siarad yn datblygu ac awgrymu gweithgareddau y gallwch eu gwneud i annog sgiliau chwarae, dealltwriaeth o iaith, defnyddio geiriau a chyfathrebu cyffredinol.  

Ffoniwch 02921836585 i ddechrau cyfathrebu gyda’ch gilydd. 

This image has an empty alt attribute; its file name is image.png

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf

Gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y Fro. 
Cysylltwch â ni ar: 0800 0327 322 
E-bostiwch: [email protected] 

Rhianta Caerdydd

This image has an empty alt attribute; its file name is image-2.png

Mae Rhianta Caerdydd 0-18 a Rhianta Dechrau’n Deg ill dau yn rhan o Wasanaethau Rhianta Caerdydd. Gall bod yn rhiant ddod â llawenydd a hapusrwydd yn ogystal â heriau, ar adegau. 
Nod Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yw gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy’n bywyng Nghaerdydd i wella hyder a sgiliau magu plant, cryfhau cydberthnasau a meithrin lles a gwydnwch. 

Rhianta Caerdydd 0-18 – Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd : Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (cardifffamilies.co.uk)

Vale Parenting Service

Gwasanaeth Rhiant a’r Fro 

Cefnogi teuluoedd sydd â phlant rhwng 0-18 ar draws Bro Morgannwg er mwyn adeiladu ar gryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol, gan alluogi rhieni i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli ymddygiad, arferion a ffiniau. 

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf ar 0800 0327 322 

Cynllun Gwên

Mae Cynllun Gwên yn rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ymhlith plant yng.

Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 

https://www.designedtosmile.org/welcome-croeso/ welcome/

Pob Plentyn

Lansiwyd gwefan Pob Plentyn Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu plant i gael dyfodol iach a hapus. Mae’r wefan wedi’i chynllunio ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ac mae’n cynnwys adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim e.e. Cyflwyno Bwydydd Solet, traciwr amser sgrin a gwybodaeth bellach i helpu plant i gynnal pwysau iach pan fyddant yn dechrau’r ysgol. 

First Steps Nutrition

Mae First Steps Nutrition Trust yn elusen faeth iechyd cyhoeddus annibynnol sy’n darparu gwybodaeth ac adnoddau rhad ac am ddim i’w lawrlwytho i gefnogi arferion bwyta’n iach o’r adeg cyn cenhedlu hyd at bum mlwydd oed. 

Foodwise in Pregnancy: Short Films – Nutrition Skills for Life®

Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Cyflwynir hyn mewn rhai ardaloedd yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes. Mae hwn yn gwrs anffurfiol i fenywod beichiog a’u partneriaid am fwyta’n iach a magu pwysau iach yn ystod beichiogrwydd. Siaradwch â’ch arweinydd NYLO am wybodaeth am raglenni yn eich ardal. Gallwch hefyd lawrlwytho’r ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd sy’n darparu gwybodaeth allweddol am fod yn iach yn ystod beichiogrwydd. 

Dechrau Coginio

Mae hwn yn gwrs coginio ymarferol 8 wythnos sy’n hyrwyddo negeseuon bwyta’n iach. 
Cysylltwch â’ch arweinydd NYLO os hoffech gofrestru neu cysylltwch â ni ar 029 2090 7699 

Dechrau Coginio – Lefel 1, 2 gredyd – Sgiliau Maeth am Oes®

Y Cynllun Cychwyn Iach

Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn gynllun prawf modd ar gyfer y DU gyfan ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Gall teuluoedd ar incwm isel neu ar fudd-daliadau penodol fod yn gymwys i gofrestru.  Ar ôl cofrestru, mae teuluoedd yn cael talebau am ddim bob wythnos i’w gwario ar laeth plaen, ffrwythau a llysiau ffres ac wedi’u rhewi a llaeth fformiwla babanod cyntaf. 

Cadw Fi’n Iach

Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau ar gyfer y teulu i gyd. Gellir dod o hyd i wybodaeth am faeth yn ystod beichiogrwydd, arferion bwyta’n iach ymhlith plant a ryseitiau gan Get Cooking. 

Adref – Cadw Fi’n Iach (keepingmewell.com)

Parenting Give it Time - Welsh Goverment Campaign Parent Support, Welsh ...

Magu plant. Rhowch amser iddo.  

Menter gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd i gael y gorau o fywyd teuluol. Mae’r wefan hon yn rhoi syniadau i rieni fel y gallant wneud penderfyniadau am yr hyn sy’n gallu gweithio ar gyfer eu plentyn a’u teulu a meithrin perthynas gadarnhaol gyda’u plentyn. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am reoli amserau bwyd ac ‘adegau anodd’ eraill wrth i blant dyfu a datblygu. 

Tiny Happy People

Mae Tiny Happy People yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith eich plentyn. Mae’n darparu gweithgareddau hwyliog i deuluoedd i helpu eu plentyn i gyfathrebu ac yn rhoi gwybodaeth am feithrin perthynas gyda’ch plentyn, datblygiad emosiynol ac amser bwyd. 

Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF 

This image has an empty alt attribute; its file name is image-10.png

Nod y Fenter Cyfeillgar i Fabanod (BFI) yw cefnogi menywod a theuluoedd i fwydo a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i fabanod. Un o feysydd allweddol y BFI yw cefnogi menywod i ddechrau bwydo ar y fron a pharhau am gyhyd ag yr hoffent hwy a’u babi. Mae’r fenter hon ar draws y DU yn rhan o waith byd-eang rhwng Unicef ​​a Sefydliad Iechyd y Byd.