Claire Fulthorpe
Deietegydd Arweinio
Hoff weithgaredd:
Coginio a mynd â’r ci am dro
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Mango/Madarch
Astudiais BSc Maeth Dynol a Deieteg ym Mhrifysgol Met Caerdydd (UWIC pan oeddwn i yno), fe wnes i gymhwyso fel Dietegydd yn 2007 ac ymunais â thîm Maeth a Deieteg BIP Caerdydd a’r Fro. Mae gen i amrywiaeth o brofiadau yn cefnogi gwahanol gymunedau yng Nghaerdydd ac wedi arbenigo mewn maeth yn y Blynyddoedd Cynnar ers 2014 pan ymunais â thîm Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd. Mae gofalu am fy 2 blentyn a fy nghi yn fy nghadw i’n brysur gartref.
Rydw i’n angerddol am arferion maeth da i blant ifanc ac yn mwynhau cefnogi teuluoedd i’w helpu i gyflawni hyn. Mae’r sesiynau NYLO yn hwyl i’r teulu cyfan ac yn cynnig llawer o awgrymiadau ymarferol i roi cynnig arnynt gartref.
Hiu Lo
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Chwarae pêl-fasged
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Grawnwin / Pannas
Astudiais BSc Maeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac ymunais â’r tîm yn 2023. Rwyf wedi gweithio gydag oedolion a phlant mewn prosiectau cymunedol. Mae gen i brofiad o weithio yn y gymuned a chyflwyno cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes.
Rwy’n angerddol am weithio yn y gymuned a hybu bwyta’n iach. Mae bod yn rhan o dîm NYLO yn fy ngalluogi i gael y cyfle i ddarparu’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar bobl i wneud dewisiadau bwyd iachach ac mae gweld effaith gadarnhaol ar iechyd a lles rhywun yn rhoi boddhad mawr.
Rhiannon Dunlop
Dietegydd Iechyd y Cyhoedd
Hoff weithgaredd:
Anturiaethau cerdded a darganfod lleoedd newydd
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Banana/Moron
Astudiais BSc Maeth a Deieteg ym Mhrifysgol Robert Gordon a chymhwyso fel deietegydd yn 2019. Roeddwn i wedi teithio i Samoa i ddarparu prosiectau Maeth Iechyd y Cyhoedd gyda theuluoedd a phlant oed ysgol, cyn dewis Caerdydd a’r Fro fel fy nghartref. Rwyf wedi bod yn cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar gyda bwyta’n iach ers 2020 fel rhan o dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd a chyflwyno prosiectau Sgiliau Maeth am Oes. Rwy’n angerddol am helpu eraill i wneud dewis gwybodus ynghylch eu hiechyd.
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’n tîm cyfeillgar, gofalgar bob dydd, gan gefnogi teuluoedd i deimlo wedi’u grymuso i wneud newidiadau bach cynaliadwy a fydd yn cefnogi plant i gynnal deiet iach a chytbwys.
Sian Ponting
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Coginio a chwarae pêl-rwyd cerdded
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Mefus / Ysgewyll
Rwyf wedi cael y fraint o weithio mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn fel cynorthwyydd addysgu, yn cefnogi plant a’u teuluoedd. Yn ystod gwyliau’r haf, cefnogais yr ysgol drwy gydlynu’r rhaglen Bwyd a Hwyl a chyflwyno’r rhaglen faeth ar ôl ennill fy nghymhwyster Sgiliau Maeth am Oes Lefel 2. Rwyf hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen Dechrau Coginio yn y gymuned lle rwyf wedi gallu rhannu fy angerdd am fwyd a maeth.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda theuluoedd o wahanol gymunedau a gweithio’n agos gyda nhw er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol, gydol oes. Mae gallu gwneud hyn mewn ffordd mor hamddenol, sydd hefyd yn addysgiadol, yn gwneud y gwaith o’i gyflwyno’n hwyl ac yn rhyngweithiol.
Ela Vaida
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Cerdded
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Ceirios/Afocado
Astudiais Faeth a Rheoli Pwysau Lefel 3 ac wedi mwynhau gweithio yn y gymuned a chynnig gwybodaeth yn ymwneud â maeth i rieni.
Rydw i’n angerddol am weithio gyda theuluoedd, eu cefnogi i wneud dewisiadau iachach a chyflwyno plant i amrywiaeth o fwydydd a fydd o fudd i’w lles hirdymor.