Syniadau ar gyfer gweithgareddau
Beth fydd ei angen arnoch i ddechrau arni:
- Pasta sbageti
- Amrywiaeth o diwbiau pasta a siapiau pasta gwahanol sydd â thwll yn eu canol fel penne, macaroni, rigatoni, cannelloni, siâp olwyn (rotelle), neu siapiau cymeriadau
- Lliw bwyd gwahanol (dewisol os ydych yn lliwio’r pasta)
- Finegr (dewisol os ydych yn lliwio’r pasta)
- Toes
- Glanhawyr pibelli, gwellt neu sbageti (gwlân, cortyn, careiau ar gyfer plant hŷn)
- Bagiau rhewgell ailseliadwy neu gynhwysydd â chlawr seliadwy
Sut i’w greu:
- Er mwyn lliwio eich pasta, rhowch dalp o liw bwyd a llwy de o finegr mewn bag ailseliadwy/cynhwysydd, a’u cymysgu.
- Ychwanegwch y pasta a cheisio ei orchuddio gyda’r lliw. Gofynnwch i’ch plentyn symud y pasta yn y bag plastig yn araf, neu ysgwyd y cynhwysydd fel bod y lliw yn gorchuddio’r pasta i gyd.
- Os nad yw’r lliw wedi gorchuddio’r pasta i gyd neu os ydych chi eisiau lliw mwy llachar, gallwch ychwanegu llwy de arall o finegr neu fwy o liw bwyd.
- Rhowch y pasta gyda’r lliw arno ar hambwrdd neu hambwrdd pobi a’i adael i sychu. Yn ddelfrydol dros nos, ond dylai sychu o fewn ychydig oriau.
- Defnyddiwch un lliw, neu sawl lliw, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ailadrodd camau 1 – 4 ond gyda lliw bwyd gwahanol!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 12 mis – 2 flwydd oed:
- Gwnewch siapiau peli o’r toes ar hambwrdd neu ar ben bwrdd, a’u gwasgu ychydig.
- Rhowch y pasta sbageti yn y toes, neu gallech ddefnyddio gwelltyn, a sicrhewch ei fod yn sownd. Rhowch y siapiau pasta i’ch plentyn er mwyn iddo fynd ati i greu cadwyni!
- Efallai y byddai’n well defnyddio’r tiwbiau mwy o basta gyda phlant ifancach, yna wrth iddynt ddod yn gyfarwydd â’r gweithgaredd, gallent symud i ddefnyddio’r darnau llai o basta
- Cadwch y pasta mewn cynhwysydd y gellir ei selio’n dynn, a’i ddefnyddio dro ar ôl tro!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 2 – 5 mlwydd oed:
- Wrth i’ch plentyn dyfu gallech symud ymlaen i ddefnyddio darn hir o wlân (neu ruban, cortyn neu garrai) i wneud cadwyni neu freichledau pasta! Mae’n well lapio ychydig o dâp gludiog o amgylch gwaelod y gwlân gan y bydd hyn ei gwneud yn haws creu’r cadwyni, oherwydd bydd y gwlân yn mynd yn hawdd drwy’r tyllau yn y siapiau pasta.
Beth fydd ei angen arnoch:
- Ffrwythau fel afal, oren, lemwn, gellygen
- Llysiau fel tatws, blodfresych, pupur, moron, india-corn cyfan, madarch, bresych
- Papur
- Paent sy’n barod i’w ddefnyddio mewn lliwiau gwahanol
- Plât/cynwysyddion/hambwrdd (ar gyfer y paent)
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Sbwng neu frwsh paent (dewisol)
- Papur newydd/papur cegin
Sut i’w greu:
- Golchwch y ffrwythau a’r llysiau byddwch yn eu defnyddio a’u sychu â thywel.
- Gan ddefnyddio’r bwrdd torri, torrwch eich ffrwythau a llysiau yn eu hanner gyda chyllell. Mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud gyda’ch plentyn – edrychwch ar ein ffilm ar syniadau am fyrbrydau iach sy’n dangos technegau torri diogel gwahanol.
- Sychwch yr ochr sydd wedi’i thorri gydag ychydig o bapur cegin neu bapur newydd er mwyn amsugno’r lleithder, oherwydd bydd hyn yn helpu’r paent i lynu’n well.
- Arllwyswch y paent rydych yn ei ddefnyddio i mewn i gynhwysydd bas, fel plât neu ddysgl. Os ydych yn defnyddio mwy nag un lliw, ychwanegwch y paent i blatiau niferus ar gyfer y lliwiau gwahanol.
- Gallwch naill ai ychwanegu’r paent drwy ddefnyddio sbwng neu frwsh paent, neu gallwch osod y ffrwythau yn syth i mewn i’r paent. Sicrhewch fod y darn wedi’i orchuddio’n gyfartal gyda chot denau o baent.
- Gwasgwch y ffrwyth/llysieuyn yn gadarn i’r papur, gyda’r ochr sydd â’r inc yn wynebu i lawr, ac yna ei dynnu i ffwrdd – dyna eich argraffiad cyntaf wedi’i greu!
- Nawr gallwch edrych ar ffyrdd o argraffu gyda ffrwythau a llysiau gwahanol, wedi’u torri mewn siapiau gwahanol er mwyn creu lluniau gwych!
Syniadau ac Awgrymiadau
- Ceisiwch ddefnyddio ffrwythau cadarn gan eu bod yn creu argraffiad mwy gweladwy
- Peidiwch â defnyddio gormod o baent oherwydd gall beri i amlinelliad yr argraffiad ymddangos yn aneglur
- Gwnewch batrymau a lluniau yn defnyddio llysiau gwahanol gyda’i gilydd. Er enghraifft, torrwch y blodfresych yn ddarnau unigol a’u defnyddio i greu llun o goeden fawr!
- Peidiwch â bwyta’r ffrwythau a’r llysiau wedi i chi eu defnyddio gyda’r paent oherwydd gallai hyn eich gwneud yn sâl.
- Peidiwch ag anghofio gadael i’ch paentiad sychu am ychydig oriau unwaith y byddwch wedi gorffen.
Bydd eich plant bach wrth eu boddau yn chwarae gyda reis heb ei goginio, mae’n gynhwysyn amrywiol y gellir ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol – dro ar ôl tro. Gallwch ddefnyddio’r reis fel ag y mae, neu gallwch ei liwio’n wahanol liwiau’r enfys, neu hyd yn oed ychwanegu sawrau gwahanol – a fydd yn datblygu dychymyg a phrofiad synhwyraidd eich plentyn hyd yn oed yn fwy!
Beth bydd eich angen arnoch:
- Bag mawr o reis
- Bagiau plastig ailseliadwy
- Lliw bwyd mewn amrywiaeth o liwiau gwahanol
- Finegr (dewisol)
- Hambwrdd
- Cynhwysydd mawr
Sut i liwio eich reis
- Rhannwch y reis rhwng y bagiau seliadwy.
- Ychwanegwch ychydig ddiferion o bob lliw rydych yn ei ddefnyddio i bob bag o reis.
- Seliwch y bag a’i ysgwyd i ddosbarthu’r lliw. Mae hyn yn rhywbeth y bydd eich plentyn yn mwynhau ei wneud!
- Gallwch ychwanegu llwyaid o finegr, oherwydd gall hyn helpu’r lliw i bara’n hirach.
- Lledaenwch y reis ar hambwrdd i sychu – dylai fod yn sych o fewn ychydig oriau.
Unwaith y bydd y reis yn sych, arllwyswch i mewn i gynhwysydd mawr neu bowlen fas a rhowch gynnig ar y gweithgareddau gwahanol hyn! Os ydych yn defnyddio cynhwysydd llai o faint, gallai fod yn syniad rhoi lliain neu fat chwarae oddi tano i gadw’r reis mewn un lle!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 12 mis – 2 flwydd oed
- Os ydych yn defnyddio lliwiau gwahanol gallech eu trefnu mewn patrwm neu gymysgu’r lliwiau gyda’i gilydd.
- Rhowch gynnig ar sgwpio ac arllwys y reis gan ddefnyddio offer gwahanol fel powlenni llai, twndish, llwyau, tiwbiau neu hambyrddau ciwbiau iâ i sgwpio. Bydd eich plentyn wrth ei fodd yn gweld y reis yn ‘symud’ ac yn llifo.
- Anogwch eich plentyn i roi ei ddwylo yn y reis i deimlo siapiau a gweadau gwahanol y reis.
- Ceisiwch guddio darnau o bosau neu ddarnau’r wyddor yn y reis i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, a bydd hyn yn ei wneud yn fwy o hwyl roi’r pos yn ôl at ei gilydd.
- Gallech gael te parti reis! Rhowch y reis mewn tebot chwarae ac arllwyswch i gwpanau fel rhan o de parti gyda theganau eraill.
- Ychwanegwch deganau anifeiliaid, deinosoriaid neu unrhyw greaduriaid eraill i’r reis – gallech naill ai eu cuddio er mwyn i’ch plentyn chwilio drwy’r reis i’w canfod, neu chwarae gyda nhw yn unig.
- Defnyddiwch gloddwyr neu dryciau bach eich plentyn i balu’r reis ac esgus ei fod yn safle adeiladu.
- Gallech gadw’r reis yn y bagiau hefyd i’ch plentyn chwarae gyda nhw – byddant yn dwli gallu teimlo’r reis drwy’r bagiau.
- Gallech ychwanegu sawr i’r reis hefyd. Gellir defnyddio lemwn neu oren wedi’i wasgu i mewn i’r reis yn ogystal â’r lliw bwyd, neu berarogl naturiol neu hyd yn oed perlysiau.
Gweithgareddau ar gyfer babanod 2 – 5 mlwydd oed
- Gwnewch weithgareddau crefft gyda’ch reis enfys – defnyddiwch gerdyn neu bapur plaen a lliw a glud – defnyddiwch y rhain i greu enfysau lliwgar gyda reis o bob lliw, neu gallech wneud angenfilod neu greaduriaid reis.
Syniadau ac Awgrymiadau
- Gallech ddefnyddio pasta sych yn lle Gall hyn fod yn ffordd dda o ddechrau cyflwyno eich plentyn i weadau gwahanol.
- Defnyddiwch basta o siapiau gwahanol fel penne (tiwbiau), fusilli (troellau), conchiglie (cregyn), farfalle (clymau) a’u hychwanegu i gynhwysydd o faint canolig/mawr.
- I wneud pethau ychydig yn fwy heriol, gallech guddio gwrthrychau bach yn y pasta i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, fel teganau neu bosau bach.
- Unwaith y bydd eich plentyn wedi gorffen chwarae â’r pasta, gellir ei storio mewn cynhwysydd i’w ailddefnyddio.
- Pan fydd eich plentyn yn gyfforddus â gweadau sych, fel pasta a reis, gall symud ymlaen at weadau mwy gwlyb – fel sbageti wedi’i goginio, ceirch gwlyb.
- Mae ambell fath o basta yn dod mewn lliwiau gwahanol, y gallech roi cynnig arnynt hefyd, neu edrychwch ar ein ffilm creu cadwyni pasta ar sut i liwio pasta!
Gellir chwarae gyda cheirch gyda phlant o 6 mis oed ac yn hŷn fel gweithgaredd synhwyraidd a datblygiadol.
Beth fydd ei angen arnoch:
- Ceirch Uwd
- Hambwrdd neu gynhwysydd bas
Pethau ychwanegol dewisol:
- Twmffat
- Jwg
- Powlenni
- Biceri
- Llwyau
- Cloddwyr a cheir
- Set de
- Blociau mega
- Dŵr (dewisol ar gyfer chwarae gwlyb)
Sut i’w wneud:
- Arllwyswch y bag o geirch uwd i mewn i hambwrdd a gadewch i’ch plentyn fynd at i chwarae. Rhowch amser iddo archwilio gwead y ceirch sych gyda’i ddwylo.
- Ar gyfer archwiliad hwyliog pellach, cynigiwch amrywiaeth o wrthrychau iddo sy’n annog sgwpio, arllwys, cloddio ac ati. Gallech hyd yn oed roi hoff deganau eich plentyn bach yno. Fel cloddiwr neu set o geir, set de, blociau mega ac ati.
- Gallech chi hefyd gyflwyno’ch plentyn i ‘chwarae gwlyb’ trwy ychwanegu ychydig o ddŵr at y ceirch. Tynnwch ychydig o geirch o’ch hambwrdd i bowlen ar wahân ac ychwanegwch ychydig o ddŵr yn raddol gyda llwy neu jwg.
- Gadewch iddo chwarae ac archwilio pob lefel o wead, o geirch sych i rai gludiog a gwlyb. Os oes gennych unrhyw fowldiau neu dorwyr cwci, gallai eich plentyn bach gael hwyl yn gwneud siapiau gwahanol pan fydd y ceirch yn wlyb ac yn ludiog.
Beth gall eich plentyn bach ei wneud:
- Mesur, pwyso, cyfrif, sgiliau echddygol manwl
Syniadau ac awgrymiadau
- Gofynnwch i’ch plentyn gymryd llond llaw o geirch a chyfrif nifer y ceirch sydd ganddo yn ei law – gall hyn fod yn fwy addas i blant dros 2 oed.
Mae tyfu o hadau yn ffordd wych o ddysgu’ch plentyn o ble mae bwyd yn dod. Mae’r broses o blannu hedyn mewn pridd, gan ofalu amdano wrth iddo dyfu’n rhywbeth y gallwch chi ei fwyta, yn rhywbeth hudolus i blant ifanc fod yn rhan ohono. Mae’n bwysig eich bod yn dechrau gyda hadau sy’n tyfu’n weddol gyflym – felly mae’n cadw eu diddordeb ac yn rhoi profiad cadarnhaol o arddio iddynt. Mae plentyn hefyd yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd y mae wedi’i dyfu ei hun. Nid oes angen mynediad i ardd i dyfu – y cyfan sydd ei angen arnoch yw compost / pridd, rhywbeth i’w dyfu ynddo a chan dyfrio!
Offer
- Hadau berwr (gallwch gael y rhain o ganolfan arddio)
- Plisgyn ŵy gwag, pot iogwrt neu gwpan papur
- Pinnau ffelt neu frwshys paent a phaent
- Papur cegin
- Gwlân cotwm
- Dŵr
- Llwy de
Sut i’w wneud
- Addurnwch y plisgyn ŵy gwag, y pot iogwrt neu’r cwpan papur gan ddefnyddio’r pennau ffelt neu’r paent a’r brwshys paent. Gallech chi a’ch plentyn dynnu llun wynebau doniol felly pan fydd y berwr yn tyfu bydd yn edrych fel gwallt gwyrdd
- Gwlychwch ychydig o bapur cegin a’i roi ar waelod y plisgyn ŵy, pot iogwrt neu gwpan papur
- Yna ewch ati i wlychu ychydig o wlân cotwm a gosod hwn ar ben y papur cegin. Gadewch fwlch bach (tua 2 – 3cm) rhwng y gwlân cotwm a phen y plisgyn ŵy, pot iogwrt neu gwpan papur
- Rhowch lwy de o hadau’r berwr yn gyfartal dros y gwlân cotwm gwlyb. Gwasgwch nhw i lawr yn ysgafn gyda blaenau eich bysedd
- Rhowch mewn lle cynnes sy’n cael digon o olau haul, fel silff ffenestr, i dyfu
- Ychwanegwch ychydig o ddŵr bob dydd i wneud yn siŵr bod y gwlân cotwm yn aros yn llaith. Dylai’r berwr dyfu mewn 7-10 diwrnod
- Pan fydd y berwr wedi tyfu tua 10cm, torrwch ef gyda phâr o siswrn a’i ychwanegu at frechdan neu rysáit quesadilla.
Syniadau ac awgrymiadau
- Dysgwch beidio â gorddyfrio
- Defnyddiwch gynwysyddion anarferol fel hen sgidiau (y gallwch chi eu paentio) potiau te, hen sosbenni, hen deiar, cwpanau te
Beth fydd ei angen arnoch:
- Sbageti wedi’i goginio a’i oeri
- Lliw bwyd – cynifer o liwiau gwahanol ag yr hoffech
- Hambwrdd mawr
- Amrywiaeth o fodelau bwyd/teganau bach
- Bwced neu gynhwysydd bach
- 3-4 powlen a marciwr parhaol
Cyn i chi ddechrau:
- Coginiwch ac oerwch y sbageti
- Casglwch amrywiaeth o deganau bach
- Os ydych yn defnyddio cerrig bychain, rhifwch nhw o 1-10
Sut i’w greu:
- Rhowch tua 8 diferyn o bob lliw bwyd mewn powlenni ar wahân ac ychwanegu dognau hafal o sbageti wedi’i goginio a’i oeri i’r powlenni.
- Arllwyswch eich sbageti ar arwyneb i’w sychu.
- Unwaith iddo sychu, arllwyswch ef i mewn i fwced neu gynhwysydd ac ychwanegu’r cerrig bychain neu’r teganau.
Sgiliau a ddefnyddir
- Arllwys, cymysgu, cyfrif, sgiliau echddygol manwl
Syniadau ac awgrymiadau
- Rhowch gynnig ar flasu darnau o sbageti sydd wedi’u coginio a’u lliwio – bydd hyn yn helpu i gyflwyno gweadau newydd i blant.
- Anogwch y plant i gymryd rhan trwy ofyn iddynt gymysgu’r lliw bwyd gyda’r sbageti sydd wedi’i oeri a chasglu teganau bach iddynt ddarganfod yn y mwydod sbageti.
- Os yw’r sbageti’n troi’n rhy sych neu’n ludiog, gwnewch yn siŵr fod gennych ddŵr wrth law i’w roi ar y pasta i’w helpu i aros yn feddal ac yn llithrig.
- Gwnewch yn siŵr bod y cerrig bychain neu’r teganau yn rhy fawr i’w llyncu.
- Gallwch ymarfer eich sgiliau cyfrif ac enwi drwy gyfri’r holl deganau/cerrig bychain rydych chi wedi’u canfod a defnyddio geiriau disgrifio ar gyfer pob tegan.
Beth fydd ei angen arnoch:
- 1 cwpan o Flawd
- 1 cwpan o Ddŵr
- 1/2 cwpan o Halen
- 2 lwy de o Hufen Tartar
- 1 llwy fwrdd o Olew Llysiau
- 2 lwy de o liw bwyd
- Cwpan
- Llwy fwrdd
- Llwy de
- Sosban
- Powlen gymysgu
- Chwisg
- Reis
- Rhiniau bwytadwy e.e. mintys, oren
Sut i’w greu
- Anogwch eich plentyn i’ch helpu i fesur eich cynhwysion sych a’u harllwys i mewn i’ch sosban.
- Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i’r cynhwysion sych.
- Mewn llestr ar wahân, cyfunwch y lliw bwyd a’r dŵr, un ar gyfer pob lliw rydych chi’n dymuno ei ddefnyddio. Ychwanegwch eich dŵr lliw i’ch sosban o gynhwysion sych.
- Rhowch gyfle i’ch plentyn i helpu gyda chwipio eich cynhwysion cyn cynhesu’r gymysgedd i gael gwared ar unrhyw lympiau neu gyfuno’r holl gynhwysion.
- Coginiwch ef dros wres canolig, gan barhau i’w gymysgu tan iddo droi’n dalp trwchus.
- Rhowch y toes chwarae ar arwyneb glân a’i dylino nes ei fod yn llyfn.
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn)
- Mesur y cynhwysion sych
- Mesur, arllwys a chymysgu’r lliw bwyd a’r dŵr
- Cyfuno a chwipio cynhwysion sych a gwlyb
- Troi’r gymysgedd
- Tylino’r toes unwaith iddo oeri
Sgiliau
- Mesur, arllwys, chwipio, tylino
Syniadau ac awgrymiadau
- Gallwch chi bob amser ddefnyddio dŵr oer yn hytrach na choginio ar y stôf. Cymysgwch ef tan iddo ffurfio pelen lyfn o does chwarae.
- Bydd y toes yn para am ychydig wythnosau mewn cynhwysydd y gellir ei selio’n dynn neu fag ‘zip-lock’.
- Gan ddefnyddio glanhawyr pibell/gwellt a llygaid siglog, gallwch droi eich peli toes yn fwystfilod toes.
- Gallwch chi hefyd greu rhai peli toes newydd gydag aroglau naturiol, lliw a gweadau ychwanegol, er enghraifft: ychwanegu ambell lwy de o groen sitrws wedi’i gratio neu fwyar wedi’u stwnshio (ffres neu wedi’u dadrewi) i’r toes yn y camau olaf. Gallwch chi hyd yn oed ychwanegu rhai perlysiau a sbeisys neu riniau bwytadwy fel fanila neu fintys.