1

Nid yw plant ifanc yn bwyta’n dda os ydyn nhw’n llwglyd neu’n flinedig iawn, felly ceisiwch osgoi hyn trwy osod trefn ddyddiol o 3 phryd a 2-3 byrbryd y dydd.

2

Sefydlwch ardal ar gyfer bwyta, yn ddelfrydol gyda bwrdd y gallwch chi i gyd eistedd o’i gwmpas.

3

Diffoddwch unrhyw beth a allai dynnu sylw eich plentyn, e.e. teledu neu iPad a rhowch y teganau i un ochr.

4

Bwytewch gyda’ch gilydd cymaint â phosibl. Siaradwch am fwydydd rydych chi’n eu mwynhau a cheisiwch osgoi gwneud sylwadau negyddol am fwydydd. Gall amser bwyd fod yn amser gwych i helpu sgiliau iaith eich plentyn.

5

Mae dysgu bwyta yn sgil newydd sy’n cymryd amser, gan arwain at lanast. Dylech drin damweiniau mewn ffordd ddigynnwrf. Peidiwch â sychu dwylo ac wyneb eich plentyn yn ystod y pryd bwyd, arhoswch tan ddiwedd y pryd i’w glanhau.

6

Gall dognau mawr fod yn llethol. Dechreuwch gyda dognau bach. Os ydynt wedi gorffen, dylech ganmol eich plentyn a chynnig mwy.

7

Cadwch amser bwyd i 20-30 munud, mae’n annhebygol y bydd plant yn bwyta mwy ar ôl yr amser hwn

8

Ceisiwch osgoi gwneud pryd hollol wahanol os yw eich plentyn yn gwrthod pryd o fwyd. Yn hytrach, ceisiwch gynnig 2 gwrs, prif bryd bwyd a phwdin maethlon fel ffrwythau ac iogwrt, i roi cyfle arall i’ch plentyn fwyta.

9

Peidiwch â rhoi byrbrydau neu ddiodydd yn rhy agos at amser bwyd – gall hyn lenwi eich plentyn cyn prydau bwyd.

10

Ceisiwch gadw amser bwyd yn dawel a mynd ag unrhyw fwyd sydd heb ei fwyta oddi yno heb ddweud dim. Ceisiwch anwybyddu ffysio yn ystod amser bwyd, gall rhoi llawer o sylw i’ch plentyn pan nad yw’n bwyta ei annog i barhau i ymddwyn fel hyn.

11

Daliwch ati i gynnig bwyd hyd yn oed os yw eich plentyn wedi gwrthod yr un bwyd o’r blaen – gall gymryd 15-20 gwaith i blentyn roi cynnig ar fwyd newydd.

12

Rhowch ganmoliaeth a sylw i’ch plentyn pan yn bwyta’n dda neu’n rhoi cynnig ar fwydydd newydd.

13

Rhowch gynnig ar fwydydd mewn gwahanol ffurfiau, er enghraifft efallai na fydd plentyn yn bwyta moron wedi’u coginio ond mae’n bosibl y bydd yn bwyta moron amrwd.

14

Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd newydd os ydynt yn cael eu cynnig gyda bwydydd y maent eisoes yn eu hoffi. Ceisiwch roi bwydydd newydd mewn powlen neu blât ar wahân.

15

Peidiwch byth â gorfodi plentyn i fwyta. Mae defnyddio pwysau, grym neu orfodi eich plentyn i fwyta yn aml yn cael effaith i’r gwrthwyneb.

16

Gadewch i’ch plentyn benderfynu faint i’w fwyta, mae plant ifanc yn dda iawn am reoleiddio eu harchwaeth eu hunain. Gall eu harchwaeth amrywio o ddydd i ddydd felly gallant fwyta mwy ar rai dyddiau nag eraill. Os yw eich plentyn yn dangos arwyddion ei fod wedi cael digon, ewch â’r bwyd oddi yno heb ddweud dim.

Gwobrau nad ydynt yn fwyd

Mae llawer o ffyrdd i wobrwyo neu gysuro eich plentyn heb ddefnyddio bwyd.

Syniadau yn cynnwys:

  • Canmoliaeth, clapio a dweud da iawn.
  • Cofleidio a chusanu i gysuro eich plentyn.
  • Sticeri.
  • Hoff gêm neu weithgaredd.
  • Taith i’r parc.