Mae llawer o blant ifanc yn mynd trwy gyfnodau o wrthod rhoi cynnig ar fwydydd newydd neu wrthod bwydydd yr oeddent yn arfer eu mwynhau. Gall hyn beri pryder neu fod yn rhwystredig i rieni a gofalwyr.

Mae’r rhan fwyaf o blant yn tyfu allan o fwyta ffyslyd ac yn dysgu bwyta amrywiaeth o fwydydd

Gall yr awgrymiadau canlynol helpu i reoli’r cam hwn

1

Rhowch ddigon o gyfleoedd i’ch plentyn weld, arogli a chyffwrdd amrywiaeth o fwydydd y tu allan i amser bwyd. Gall hyn fod trwy chwarae gyda bwyd er enghraifft chwarae blêr, gweithgareddau coginio, crefftau gan ddefnyddio bwydydd go iawn, llyfrau a chaneuon.

2

Mae rhai plant yn fwy sensitif i wahanol weadau, felly gall annog chwarae synhwyraidd eu helpu i deimlo’n gyfforddus i roi cynnig ar weadau newydd. Mae chwarae’n flêr gyda thoes, dŵr a thywod yn weithgareddau da i roi cynnig arnynt. Dechreuwch gyda gweadau bwyd sych fel reis a symudwch yn raddol at weadau gwlypach fel toes.

3

Gadewch i blant fod yn rhan o ddewis yr hyn maen nhw am ei fwyta ond cyfyngwch eu dewisiadau fel nad ydynt yn teimlo wedi’u llethu. Yn hytrach na gofyn ‘Beth hoffech chi fel byrbryd?’, gofynnwch ‘Hoffech chi afal neu fanana fel byrbryd heddiw?’

4

O oedran ifanc, gall plant fod yn rhan o amser bwyd, o gael bwyd bys fel y gallant fwydo eu hunain, hyd at helpu i ledaenu haenau, arllwys eu diod eu hunain a sleisio ffrwythau meddal

5

Mae’n gyffredin i blant wrthod bwyd newydd, daliwch ati i gynnig yr un bwyd yn ystod amser bwyd arall. Gall gymryd 15-20 gwaith i blentyn dderbyn bwyd newydd.

6

Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd os yw’n cael ei gynnig gyda bwydydd y maent eisoes yn eu mwynhau. Maen nhw’n dysgu trwy gopïo eraill felly ceisiwch fwyta prydau gyda’ch gilydd a gadewch iddyn nhw eich gweld chi’n bwyta amrywiaeth o fwydydd.

7

Ceisiwch beidio â chynhyrfu amser bwyd a pheidiwch â dangos eich bod yn poeni nad yw eich plentyn yn bwyta.