News & Events Hwyl Tymhorol gyda’r rhai bach: Gweithgareddau Iach yr Hydref i Blant

Ysgrifennwyd gan Hiu Lo

Mae’r hydref ar ddod! Mae’n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng hwyl a maeth yn ystod y tymor melys hwn. Ydych chi’n chwilio am syniadau am weithgareddau y gall eich plant eu gwneud? Peidiwch ag edrych dim pellach, mae gennym rai syniadau am weithgareddau hydrefol sydd nid yn unig yn hwyliog ond sydd hefyd yn hybu arferion iach ar gyfer eich bwystfilod bach. Gadewch i ni glywed mwy!

Mae’r gweithgareddau hyn yn ddelfrydol ar gyfer plant rhwng 1-5 oed. Cofiwch beidio â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth tra’n gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.

Coginio

Cawl Sbigoglys Rhyfeddol / Gwlych y Gwrachod

Cynhwysion:

1 llwy de o olew llysiau

1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân

2 ewin garlleg, wedi’u torri

1 cennin, wedi’i sleisio

200g o datws, wedi’u torri’n fân

1 ciwb stoc llysiau halen isel

200g o sbigoglys

Pinsiad o bupur du

2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol

Dull:

  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y garlleg, winwnsyn, cennin a’r tatws. Rhowch y clawr drosto a’i adael i feddalu am 5 munud.
  2. Ychwanegwch stoc a phupur du. Dewch ag ef i’r berw cyn lleihau’r gwres a’i fudferwi am tua 30 munud. Sicrhewch fod y cennin a’r tatws wedi’u coginio’n llwyr.
  3. Ychwanegwch sbigoglys a’u coginio am ychydig funudau nes eu bod wedi gwywo.
  4. Gwnewch biwrî o’r gymysgedd gan ddefnyddio blendiwr nes ei fod yn feddal.
  5. I weini, arllwyswch y cawl i bowlenni a’i addurno ag iogwrt naturiol.

Rholiau bara draenog

Gallech ychwanegwch ychydig o hadau blodau haul i roi ffeibr a phrotein ychwanegol.

Cynhwysion:

200g o flawd codi

½ llwy de o bowdr codi

50g o fargarîn neu bâst llysiau

1 llwy de o fasil wedi sychu

½ llwy de o deim wedi sychu

1 llond llaw o gaws wedi’i gratio

1 bocs o resins

125ml o ddŵr

Dull:

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C / ffan 180°C / marc nwy 6.
  2. Hidlwch y blawd a’r powdr codi mewn powlen fawr, yna rhwbiwch y margarîn i’r blawd gan ddefnyddio blaenau’ch bysedd (hyd nes ei fod yn edrych fel briwsion bara).
  3. Ychwanegwch y caws a’r perlysiau. Gwnewch agoriad yn y canol ac ychwanegwch ychydig bach o ddŵr. Cymysgwch y cyfan. Parhewch i ychwanegu ychydig bach o ddŵr a’i gymysgu nes bod gennych does meddal, ond ddim yn ludiog.
  4. Rhowch ychydig o flawd ar arwyneb a thorrwch y toes yn beli. Nawr gwnewch siâp draenog ohono drwy ymestyn un darn ychydig i’r ochr a’i wasgu’n ysgafn i greu trwyn.
  5. Defnyddiwch siswrn cegin i dorri’r toes yn ofalus a gwneud y pigau ar gefn y draenog. Gosodwch 2 resinen i greu llygaid.
  6. Coginiwch yn y ffwrn am 15-20 munud.
  7. Edrychwch i weld a yw’r bara yn barod drwy dapio’r gwaelod ac aros am sŵn gwag.

Gweithgareddau

Gêm Arnofio neu Suddo Hydrefol

Pwy sydd ddim yn hoffi gêm ddyfalu? Yn y gweithgaredd hwn, gall eich plentyn ragweld a fydd y gwrthrych yn suddo neu’n arnofio yn y dŵr a gwnewch nodyn o’r canlyniadau.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Jar fawr

Pensil a phapur

Gwahanol wrthrychau naturiol y gallwch ddod o hyd iddynt ar daith gerdded

Rhai syniadau o beth i’w darganfod ar daith gerdded yn y parc:

  • Cnau castan
  • Mesen
  • Afal
  • Deilen
  • Aeron
  • Mochyn coed
  • Ffyn
  • Plu

Dull:

  1. Llenwch jar fawr â dŵr 2/3 i’r top
  2. Gofynnwch i’ch un bach pa wrthrychau maen nhw’n meddwl bydd yn arnofio ac yn suddo
  3. Gollyngwch y gwrthrychau i’r dŵr un ar y tro i weld a ydyn nhw’n arnofio neu’n suddo
  4. Cymharwch yr hyn a ddyfalwyd â’r canlyniadau

Reis yr Hydref

Rydyn ni wedi rhoi sbin tymhorol ar ein reis enfys, gan ddewis defnyddio lliwiau hydrefol!

I wneud reis yr Hydref, bydd angen:

1 Bag mawr o reis

Bagiau plastig ailseliadwy

Lliw bwyd

Dull:

  1. Rhannwch y reis rhwng y bagiau seliadwy.
  2. Ychwanegwch ychydig ddiferion o bob lliw rydych yn ei ddefnyddio i bob bag o reis (mae oren, gwyrdd a coch yn rhai syniadau o ran lliw).
  3. Seliwch y bag a’i ysgwyd i ddosbarthu’r lliw.
  4. Lledaenwch y reis ar hambwrdd i sychu – dylai fod yn sych o fewn ychydig oriau.
  5. Pan fydd y reis yn sych, gallwch ddechrau chwarae!

Sut i chwarae:

  1. Arllwyswch y reis i dwb/cynhwysydd mawr neu ddysgl fas.
  2. Trefnwch y reis mewn patrwm hydrefol.
  3. Ychwanegwch wahanol deganau i’r twb fel anifeiliaid plastig tymhorol (pryfed cop, ystlumod ac ati), glanhawyr pibellau oren/du a llygaid ‘googly’.
  4. Gallwch hefyd ychwanegu rhai torwyr bisgedi ar thema’r hydref ac ategolion eraill sydd eisoes gennych gartref.
  5. Gadewch i ddychymyg eich plant benderfynu beth hoffent ei wneud â reis yr hydref!

Glŵp pwmpen

Bydd angen y canlynol arnoch:

2 gwpan o flawd corn

1 cwpan o ddŵr

lliw bwyd oren

Sut i chwarae:

  1. Rhowch y blawd corn mewn cynhwysydd mawr ac ychwanegwch rai diferion o liw i’r canol. Sicrhewch fod y dŵr wrth law i’ch plentyn ei arllwys i mewn i’r cynhwysydd.
  2. Cymysgwch y dŵr i mewn i’r blawd corn a’r lliw. Bydd yn cymryd ychydig o amser i’w gymysgu ond ceisiwch annog eich plentyn i chwarae gyda’r glŵp cyn iddo gael ei gymysgu.

Awgrym: Ar gyfer plant sy’n fwy sensitif i weadau, gallech geisio rhoi’r cymysgedd mewn bag rhewgell seliadwy yn gyntaf. Bydd hyn yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â’r gwead yn gyntaf.

Gall yr hydref fod yn iach ac yn ddifyr ar yr un pryd. Gyda’r syniadau arswydus a hwyliog hyn, gallwch greu atgofion hirhoedlog wrth gyflwyno arferion iach a fydd o fudd iddynt y tu hwnt i dymor yr hydref. I’r rhai sy’n dathlu, dymunwn Hydref hyfryd i chi a mwynhewch yr holl newidiadau mewn lliw a ddaw y tymor hwn! ! 🍂🎃🕷