

Mae’r gaeaf yn amser perffaith i gael plant i gymryd rhan yn y gegin, gan greu atgofion annwyl a danteithion blasus. Pan fydd hi’n oerach, ac nid yw hi mor hawdd mynd allan, gall fod yn anodd meddwl am weithgareddau newydd i ddiddanu’ch rhai bach. Dyma rai gweithgareddau ar thema’r gaeaf, yn ymwneud â bwyd, wedi’u teilwra ar gyfer plant dan 5 oed a fydd yn eu cadw’n brysur yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae’r gweithgareddau hyn yn ddelfrydol ar gyfer plant rhwng 1-5 oed. Cofiwch beidio â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth tra’n gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.
Coginio
Byrbryd dyn eira

Mae’n amser creu dynion eira!
Cynhwysion (yn gwneud 12):
½ ciwcymbr
250g o gaws mozzarella
2 sleisen o foronen
Dyrnaid o hadau pabi
12 Darnau o spageti sych (neu tröwr coffi)
Dull:
- Golchwch y ciwcymbr a’r moron i’w defnyddio yn nes ymlaen.
 - Torrwch 12 rownd o’r ciwcymbr, tua 1cm o drwch.
 - Torrwch y mozzarella yn 12 siâp pêl bach (gallwch brynu perlau mozzarella sydd eisoes yn y siâp hwn hefyd).
 - Gwthiwch ffon darnau o sbageti sych i’r sleisen giwcymbr fel ei fod yn sefyll yn fertigol.
 - Gwthiwch 2 bêl mozzarella ar y sbageti sych i greu corff a phen y dyn eira.
 - Torrwch y foronen yn ddarnau triongl bach i wneud trwyn y dyn eira. Gwthiwch y trwyn i ddarn pen y dyn eira.
 - Ychwanegwch hadau pabi du i wneud llygaid a botymau i’r dyn eira.
 - Gweinwch a mwynhewch!
 
Awgrym 1: Gall plant helpu i olchi llysiau, torri a rhoi’r dyn eira at ei gilydd
Awgrym 2: Os oes gennych chi dorrwr cwci bach gartref, fe allech chi ddefnyddio hwnnw i dorri cylchoedd bach o’r moron dros ben i wneud het i’r dyn eira.
Darnau Afal Sbeislyd

Cynhwysion (ar gyfer 4):
1 llwy de o olew llysiau
2 afal coginio
1 llwy de sinamon wedi’i falu
Dulliau:
- Cynheswch y ffwrn i 180°C / ffan 160°C / marc nwy 4.
 - Seimiwch yr hambwrdd pobi gyda’r olew llysiau.
 - Golchwch yr afalau a defnyddiwch y pliciwr llysiau i dynnu’r croen allanol.
 - Defnyddiwch greiddiwr i dynnu’r pips a geir yng nghanol yr afalau.
 - Torrwch bob afal yn 8 sleisen.
 - Rhowch y sleisys afal ar yr hambwrdd wedi’i seimio.
 - Rhowch ychydig o’r sinamon ar bob sleisen afal, gan ddefnyddio’ch bysedd.
 - Pobwch yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 5-7 munud hyd nes eu bod yn frown euraid. Gadewch i oeri cyn ei weini.
 
Awgrymiadau: Gallech hefyd ddefnyddio sbeis cymysg, nytmeg, sinsir, neu bob sbeis i’w wneud yn fwy gaeafol.
Crymbl Ffrwythau’r Gaeaf

Cynhwysion (ar gyfer 4 oedolyn neu 6 o blant):
450g o ffrwythau, wedi’u torri (ffresh / wedi’u rhewi / tun). Rhai syniadau am ffrwythau yw afal, ceirios, eirin, gellyg, aeron gaeaf
125ml o ddŵr
50g o flawd plaen
75g o fargarîn neu sbred llysiau
25g o siwgr brown meddal
75g o geirch uwd
2 llwy fwrdd o ffrwythau sych, e.e. syltanas (dewisol)
1 llwy de o sinamon (dewisol)
Dull:
- Cynheswch y ffwrn i 180°C/160°C Ffan/Marc Nwy 4.
 - Rhowch y ffrwythau mewn dysgl dal gwres. Arllwyswch ddigon o ddŵr i orchuddio gwaelod y ddysgl.
 - Mewn powlen gymysgu, rhwbiwch y blawd a’r margarîn/sbred llysiau at ei gilydd gyda blaen eich bysedd. Nes ei fod yn edrych fel briwsion bara.
 - Ychwanegwch weddill y siwgr, ceirch, ffrwythau sych a sinamon (os ydych chi’n ei ddefnyddio) a’u cymysgu’n dda.
 - Arllwyswch gymysgedd y crymbl yn gyfartal dros y ffrwythau (gwnewch yn siŵr ei fod yn gorchuddio’r ffrwythau).
 - Coginiwch ef am 30-40 munud nes ei fod yn euraidd.
 
Gall plant helpu i olchi’r ffrwythau, pwyso, ychwanegu’r sinamon/sbeis, arllwys a rhwbio
Gweithgareddau
Gwnewch Gerdyn Gaeaf drwy argraffu llysiau

Gyda’r tywydd oerach, mae’n amser perffaith i wneud gwaith crefft, ac nid oes ffordd well o ledaenu ychydig o hwyl y gaeaf na thrwy wneud cardiau i’ch ffrindiau a’ch teulu.
Yr hyn sydd ei angen arnoch:
- Papur neu gerdyn gwag
 - Amrywiaeth o lysiau
 - Paent cymysg parod sy’n addas i blant
 - Platiau plastig ar gyfer paent
 - Ffedog (dewisol)
 
Rhai syniadau llysiau i’w defnyddio:
- Seleri
 - Bresych
 - Lemwn
 - Winwnsyn
 - Sbrowts
 - Yd
 - Moronen
 - Brocoli/ Blodfresych
 - Shibwns
 
Sut i’w greu:
- Paratowch eich gweithfan, gorchuddiwch y bwrdd gyda phapur newydd neu liain bwrdd i ddal unrhyw baent sy’n arllwys. Gwisgwch eich ffedog os ydych chi’n defnyddio un.
 - Golchwch y llysiau a’u torri’n ddarnau hanner neu hyd yn oed yn llai gan ddefnyddio cyllell ddiogel i blant.
 - Rhowch yr ochr o’r llysiau sydd wedi’i thorri yn y paent, gan sicrhau eich bod yn ei orchuddio i gyd. Gwasgwch yr ochr wedi’i phaentio ar eich cardiau neu’ch papur gwag i greu printiau hardd fel dail celyn, torchau a phlu eira.
 - Unwaith y bydd y paent yn sychu, ysgrifennwch negeseuon gwyliau personol y tu mewn i bob cerdyn a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.
 
Chwarae Pasta’r Gaeaf

Yr hyn sydd ei angen arnoch:
- Cardbord (dewisol)
 - Pasta o’ch dewis, rhai enghreifftiau yw olwynion mini, clymau bwa, rigatoni a throellau mini
 - Paent cymysg parod sy’n addas i blant
 - Bagiau y gellir eu selio ar gyfer lliwio’r pasta
 - Rhuban neu lanhawyr pibellau
 - Glud
 - Glitter (dewisol)
 - Mochyn coed (dewisol)
 
Sut i’w greu:
- I wneud pasta lliw, dilynwch ein gweithgaredd cadwyni pasta ar Rhiant / Gofalwr – NYLO – gallwch hefyd roi glitter yn y bagiau y gellir eu selio i wneud pasta gaeaf disglair.
 
I wneud torch gaeaf:
- Tynnwch 2 gylch ar y cardbord i wneud siâp torch. Tynnwch gylch bach arall yn y dorch i’r rhuban fynd drwyddo i hongian. Gyda chymorth oedolyn, torrwch y siâp torch allan.
 - Dyluniwch eich torch a gludwch y pasta a’r mochyn coed (os ydych chi’n ei ddefnyddio) ar y cardbord.
 
I wneud breichled gaeaf
- Clymwch gwlwm mewn glanhawr pibell neu ruban ar un pen
 - Rhowch basta ar eich glanhawr pibell neu ruban mewn unrhyw batrwm y dymunwch
 - Clymwch gwlwm ar y pen arall i gadw’r pasta yn ei le
 - Rhowch ar yr arddwrn i’w gwisgo a’i chlymu.
 
Golygfa Aeafol: Gwneud Eira Dan Do

Rydyn ni wedi rhoi naws aeafol i’n tywod lleuad i greu golygfa aeafol!
I wneud eira ffug, bydd angen:
- 100g o flawd corn
 - 25mls o olew llysiau neu olew blodyn yr haul
 - Sbeisys gaeaf fel sinamon a nytmeg (Dewisol)
 - Olew naws fel pupur-fintys (Dewisol)
 
Sut i’w greu:
- Rhowch y blawd mewn powlen, yna cymysgwch yr olew a’r olew naws yn araf, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
 - Rhwbiwch yr olew drwy’r blawd gyda blaenau eich bysedd, fel petaech yn gwneud crwst, nes bod y gymysgedd yn teimlo’n dywodlyd ac nad oes unrhyw olew i’w weld. Os yw’r gymysgedd yn teimlo’n rhy sych, ychwanegwch rai diferion o olew, neu os yw’r gymysgedd yn rhy feddal, ychwanegwch fwy o flawd. Dylai deimlo fel clai sych, y gellir newid ei siâp, sy’n troi’n friwsion yn weddol hawdd pan gaiff ei wasgu.
 - Unwaith y bydd yr eira’n barod, mae’n amser adeiladu eich golygfa aeafol – beth am roi cynnig ar wneud dyn eira dan do!
 - Ceisiwch wasgu’r eira at ei gilydd i wneud dyn eira neu defnyddiwch dorwyr cwci i wthio’r eira i siapiau a defnyddiwch yr eira i greu tirwedd aeafol.
 
Mae’n dymor sy’n llawn awyr iach, eiliadau cysurus, a dathliad o harddwch y gaeaf. Yn y dathliad hwn o’r gaeaf, gadewch i ni gofleidio naws gyfareddol a hudolus y tymor. 🌨❄️☃️ 🌲