News & Events Hwyl yr Haf 2024

Mae’r haf yn golygu bod llawer mwy o gyfleoedd i fod allan yn yr awyr agored gyda’ch rhai bach.  Parhewch i ddarllen i gael rhai syniadau ar sut i fanteisio ar y dyddiau heulog hynny i fwynhau chwarae gyda bwyd hefyd. Cofiwch beidio â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth tra’n gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.

Gweithgareddau Coginio

Cwpanau letys gyda dip menyn cnau daear 

Oeddech chi’n gwybod y gellir cynnwys menyn cnau daear llyfn mewn byrbryd fel ffynhonnell o brotein i helpu’ch un bach i adeiladu cyhyrau cryf? 

Mae’r cwpanau letys hyn yn mynd yn berffaith gyda’r dip cnau daear hwn a gall eu creu fod yn weithgaredd llawn hwyl sy’n cynnwys y plant. 

Cwpanau letys

Cynhwysion

  • Letys gem bach 
  • Cwinoa neu nwdls reis wedi’u coginio 
  • Tomato bach, wedi’i dorri’n chwarteri 
  • Tiwna neu gyw iâr wedi’i goginio 
  • Shibwns, wedi’u torri’n fân neu eu sleisio 
  • Pupurau, wedi’u torri’n fân neu eu sleisio 
  • Ciwcymbr, wedi’i dorri’n fân neu ei sleisio 

Sut i’w creu:  

  1. Golchwch a draeniwch yr holl lysiau. 
  2. Torrwch y tomato, shibwns, pupurau a’r ciwcymbr (Torrwch y tomato yn chwarteri ar eu hyd i leihau’r siawns o dagu). 
  3. Rhwygwch y cyw iâr yn ddarnau llai â llaw. 
  4. Cymerwch gwpan letys ac anogwch y plant i ychwanegu llwyaid o wahanol fwydydd i greu eu cwpan letys eu hunain. 
  5. Gweinwch gyda’r saws dipio isod. 

Beth gall y plant ei wneud 

  • Golchi’r llysiau 
  • Torri’r llysiau 
  • Torri’r cyw iâr 
  • Rhoi’r cwpan letys at ei gilydd 

Sgiliau 

  • Golchi 
  • Torri 
  • Cydgysylltu rhwng y dwylo a’r llygaid 

Saws dipio menyn cnau daear 

Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd fawr o fenyn cnau daear 
  • Sudd hanner leim 
  • 1 llwy de o sinsir wedi’i falu 
  • 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu (neu wedi’i dorri’n fân) 
  • 2-4 llwy fwrdd o ddŵr 

Offer

  • Llwyau mesur 
  • Gwasgwr garlleg (neu defnyddiwch gyllell) 
  • Powlen gymysgu 
  • Llwy/chwisg 

Sut i’w creu:  

  1. Cyfunwch y menyn cnau daear, sudd leim a’r garlleg mewn powlen gymysgu. 
  2. Cymysgwch/chwipiwch y cynhwysion gyda’i gilydd i greu pâst. 
  3. Ychwanegwch un llwy fwrdd o ddŵr ar y tro at y pâst i’w wneud yn fwy llyfn nes ei fod y tewychedd a ddymunir. 

Beth gall y plant ei wneud 

  • Cymysgu cynhwysion 
  • Ychwanegu cynhwysion 

Sgiliau 

Cymysgu 

Ychwanegu 

Cyfrif 

Cydgysylltu rhwng y dwylo a’r llygaid 

Gweithgaredd

Daliwr Haul Gwydr Lliw o Basta

 Offer

  • Dalennau lasagne sych 
  • Pinnau ffelt 
  • Glud 
  • Bagiau rhewgell clir 

Sut i’w creu:

  1. Rhowch ychydig o ddalennau lasagne mewn bag rhewgell a’u torri’n ddarnau bach fel yn y llun uchod. 
  2. Tynnwch y darnau bach allan o’r bag yn ofalus a’u lliwio gyda phinnau ffelt o liwiau gwahanol. 
  3. Gyda chymorth oedolyn, torrwch 2 ochr y bag rhewgell gwag i greu arwyneb gwastad. 
  4. Ar ôl sychu, gallwch chi ludo’r darnau ar 1 ochr y bag rhewgell i greu eich patrymau. 
  5. Ar ôl gorffen, gludwch y 2 ochr i lawr ac mae’n barod i’w osod â Selotep ar y ffenestr. Gwyliwch i weld sut mae’n edrych pan fydd yr haul yn tywynnu ar eich gwydr lliw. 

Helfa’r Enfys

Offer:

  • Cerdyn 
  • Pin ffelt / Papur lliw gwahanol 
  • Pegiau / Glud / Selotep 

Sut i’w creu:

  1. Gyda chymorth oedolyn, torrwch bapur lliw gwahanol yn betryalau a’u gludo ar gerdyn neu ddarn o bapur. Fel arall, gallwch chi dynnu llun sgwâr a defnyddio pinnau ffelt i liwio’r blychau yn sawl lliw gwahanol. 
  2. Yn dibynnu ar yr hyn sydd gennych chi yn y tŷ, gallwch chi gysylltu peg i bob lliw, neu fynd â ffon glud/Selotep gyda chi i ludo’r eitemau rydych chi’n dod o hyd iddyn nhw. 
  3. Rydych chi bellach yn barod i fynd am dro – ceisiwch weld faint o eitemau gwahanol y gallwch chi ddod o hyd iddynt sy’n cyfateb i’r lliwiau hynny. 

Awgrym Da! Gallwch dorri’r stribed lliw a’i droi’n fand y gellir ei wisgo o amgylch arddwrn eich plentyn. 

Creu gardd fwytadwy 

Mae ymchwil wedi dangos bod plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyta bwyd y maent yn rhan o’i baratoi. Beth am geisio creu eich gardd fwytadwy eich hun gyda’r plant fel y gallant ddysgu o ble mae bwyd yn dod? Gwyliwch wrth iddynt flodeuo’n arddwyr ifanc a meithrin y planhigion a byd natur. 

  1. Dewis lle ar gyfer yr ardd 
  • Gallai hyn fod yn ardal yn yr ardd, neu hyd yn oed drwy greu tŷ gwydr wrth ffenestr. 
  • Mae hwn yn gyfle da i’r plant ddysgu am olau’r haul, pridd a thechnegau dyfrio. Gallant hefyd helpu i osod planwyr neu randir bach. 

2. Dewis y planhigyn cywir 

  • Byddai dechrau gyda phlanhigion hawdd i’w tyfu yn ddelfrydol i gadw’r plant yn brysur a sicrhau nad ydynt yn colli diddordeb. 
  • Dyma rai syniadau: 

Perlysiau: basil, rhosmari, persli, cennin syfi, teim neu ferwr 

Llysiau: tomatos, cêl, moron, radis 

Awgrym da! Beth am roi cynnig ar ein pennau berwr NYLO sydd i’w gweld yma Rhiant / Gofalwr – NYLO