Deiet Cytbwys I Blant Ifanc
Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda wedi’i gynllunio i ddangos i ni sut i gyflawni deiet iach a chytbwys sy’n cynnwys yr holl brif faetholion sydd eu hangen ar ein cyrff. Nid yw’n gymwys yn llawn i blant o dan 2 oed gan fod ganddynt anghenion maethol penodol, fodd bynnag, rhwng 2 a 5 oed, bydd plant yn symud yn raddol tuag at fwyta’r un bwyd â gweddill y teulu.
Mae’r fideo yn manylu ar y neges yn y Canllaw Bwyta’n Dda a sut mae’n berthnasol i blant ifanc.
Cân Bwyd Iach
Ymunwch â thîm NYLO wrth iddynt ganu am fwydydd sy’n cadw ein corff yn iach.
Ffrwythau a Llysiau
Dyma un o adrannau mwyaf y Canllaw Bwyta’n Dda felly mae’n bwysig bod plant yn bwyta llawer o’r bwydydd hyn. Maent yn cynnwys amrywiaeth o fitaminau a mwynau yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o ffibr.
Tatws, bara, reis, pasta a charbohydradau startshlyd eraill
Mae’r grŵp hwn hefyd yn un o adrannau mwyaf y Canllaw Bwyta’n Dda a dylid ei gynnwys gyda phob pryd ac, yn ddelfrydol, fel un byrbryd. Mae’r bwydydd hyn yn rhoi egni, ffeibr a fitaminau B i’r corff ac mae rhai ohonynt wedi’u cyfnerthu â haearn.
Llaeth ac opsiynau amgen
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys bwydydd megis llaeth (gan gynnwys llaeth o’r fron), caws, iogwrt ac opsiynau llaeth amgen. Mae’r bwydydd hyn yn ffynhonnell wych o galsiwm sydd hefyd ei angen ar gyfer esgyrn a dannedd cryf ac maent hefyd yn ffynhonnell dda o brotein.
Ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
Mae’r bwydydd hyn yn ffynhonnell wych o brotein. Mae protein yn bwysig er mwyn tyfu ac adeiladu cyhyrau sy’n arbennig o bwysig i blant. Maent hefyd yn cynnwys lefel uchel o haearn a sinc.
Olewau a thaeniadau
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys olewau annirlawn a thaeniadau wedi’u creu o’r olewau hyn. Mae brasterau annirlawn yn dod o fraster planhigion ac yn ddewis iachach ar gyfer ein calon. Enghreifftiau o’r rhain yw olew llysiau, olew blodau’r haul neu olew olewydd a thaeniadau sydd wedi’u creu o’r olewau hyn. Hon yw’r adran leiaf felly dim ond ychydig o’r bwydydd hyn sydd eu hangen ar blant.
Diodydd
Dŵr a llaeth yw’r hylifau gorau i blant. Dylent anelu at yfed 6-8 diod bob dydd. Ar ddiwrnodau cynhesach neu pan fyddant yn gwneud mwy o ymarfer corff, mae’n bosibl y bydd angen mwy na hyn arnynt.
Bwyd sy’n llawn braster dirlawn, halen a siwgr
Y mathau o fwyd sy’n rhan o’r grŵp hwn yw siocled, menyn, bisgedi, hufen, losin, diodydd meddal siwgr llawn, creision, ciwbiau stoc a hufen iâ. Mae hefyd yn cynnwys brasterau fel menyn, menyn gloyw, olew cneuen goco a hufen. Mae’r grŵp hwn y tu allan i’r prif Ganllaw Bwyta’n Dda gan nad yw’r bwydydd hyn yn rhan hanfodol o ddeiet, felly dylid bwyta symiau bach ohonynt ac yn llai aml.
Awgrymiadau i arbed amser ac arian
Gall bywyd teuluol fod yn brysur, gall fod yn anodd cydbwyso ymrwymiadau gwahanol a dod o hyd i amser i ddarparu prydau bwyd maethlon i’r teulu. Mae’r fideo yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar ffyrdd o fwydo eich teulu’n dda wrth arbed amser ac arian.