Understanding food labels
Gall darllen a deall labeli bwyd helpu i sicrhau ein bod yn rhoi bwyd iach i blant. Y lle cyflymaf i edrych os ydych am gael cipolwg ar y wybodaeth am faeth yw blaen y pecyn. Mae’r rhan fwyaf o gynhyrchion yn dangos label goleuadau traffig. Mae’n defnyddio lliwiau i ddangos faint o faetholion sydd wedi’u cynnwys yn yr eitem. Gall fod yn ddefnyddiol cymharu cynhyrchion tebyg a’ch helpu i wneud dewisiadau bwyd iachach.
Mae rhagor o wybodaeth am faeth ar gael ar gefn y pecyn fel cynhwysion, alergenau, maeth fesul 100g, maeth fesul dogn/platiad a nifer y plateidiau fesul pecyn.