Y Gwanwyn gyda NYLO
Mae’r gwanwyn ar y gorwel – wrth iddi gynhesu a goleuo y tu allan, mae llawer mwy o gyfleoedd i fwynhau wrth chwarae! Mae tîm NYLO wedi dewis rhai gweithgareddau sy’n addas at y gwanwyn y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddynt.
Mae’r gweithgareddau hyn yn ddelfrydol ar gyfer plant rhwng 1-5 oed. Cofiwch beidio â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth tra’n gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.
Coginio
Blodyn Cacen Reis
Cynhwysion:
- Cacennau reis
- Caws hufen
- Grawnwin
- Llus
Offer:
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Llwy de
Sut i’w creu:
- Torrwch y grawnwin yn chwarteri ar eu hyd i’w defnyddio’n hwyrach. (Mae hyn yn helpu i leihau’r siawns o dagu)
- Taenwch ychydig o gaws hufen dros un ochr o’r gacen reis.
- Ychwanegwch lusen yng nghanol y gacen reis.
- Ychwanegwch 5 darn hanner o’r grawnwin i bob cacen reis i greu petalau blodau.
- Mwynhewch!
Beth gall y plant ei wneud:
- Taenu’r caws hufen
- Ychwanegu’r ffrwythau i greu’r blodau
Sgiliau:
- Taenu
- Ychwanegu cynhwysion
Potiau Salad Enfys
Cynhwysion:
- 350g o basta
- 200g o ffa gwyrdd, wedi’u tocio a’u torri i leihau’r hyd
- Can 160g o diwna mewn dŵr
- 6 llwy fwrdd o iogwrt naturiol
- Llond llaw o gennin syfi, wedi’u torri (dewisol)
- 200g o domatos bach, wedi’u chwarteru
- 1 pupur, wedi’i dorri’n giwbiau
- Can 195g o india-corn, wedi’i ddraenio
Offer:
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Clorian
- Sosban
- Rhidyll
- Llwy fwrdd
- Cynwysyddion oergell
Cyn i chi ddechrau:
- Draeniwch y tiwna a’r india-corn
- Coginiwch, draeniwch ac oerwch y pasta a’r ffa gwyrdd
- Torrwch y tomatos bach yn chwarteri
Sut i’w creu:
- Cymysgwch y tiwna gyda’r iogwrt. Ychwanegwch y cennin syfi a chymysgu’n dda.
- Rhowch y pasta mewn powlen fawr neu 4 o rai bach (perffaith ar gyfer picnic!).
- Rhowch y tiwna mayonnaise dros y pasta a’i wasgaru i greu haen. Ychwanegwch haen o ffa gwyrdd, haen o domatos bach, yna’r pupur a’r india-corn. Gorchuddiwch y cyfan a’i oeri nes eich bod yn barod i’w fwyta.
Sgiliau:
- Haenu
- Cymysgu
Gweithgaredd
Brwsh Paent Sbageti
Oeddech chi’n meddwl y gallech chi droi sbageti yn frws paent? Dyma sut y gallwch wneud hynny!
Deunydd:
- Papur
- Sbageti
- Paent cymysg parod sy’n addas i blant
- Plât plastig/papur ar gyfer y paent
- Band elastig
- Hambwrdd mawr (dewisol)
Camau:
- Clymwch ychydig o sbageti ynghyd â band elastig.
- Gofynnwch i oedolyn ferwi pot bach o ddŵr a choginiwch un pen o’r sbageti. Dim ond ychydig fodfeddi ar waelod y sbageti sydd angen eu coginio.
- Oerwch y sbageti.
- Yn y cyfamser, paratowch y paent a’r papur.
- Unwaith y bydd y sbageti wedi’i oeri, gallwch chi ddechrau defnyddio’r brwsh paent sbageti.
Ydych chi’n clywed yr hyn rwy’n ei glywed?
Pwy sydd ddim yn caru gêm ddyfalu? Gofynnwch i’ch plentyn ddyfalu’r bwyd rydych chi’n ei baratoi neu’n ei fwyta naill ai wrth goginio neu yn ystod amser bwyd. Mae pob math o amlygiad yn chwarae rhan bwysig, gan gynnwys profiadau synhwyraidd heblaw am flasu. Gallai hyn gynnwys gwrando, gweld, cyffwrdd ac arogli.
Rhai syniadau o ran bwyd:
Crensian afal/seleri/moron/pupur
Malu craceri
Cracio/chwisgo wyau
Pilio banana
Slyrpian cawl
Bwyta tost / taenu ar dost
Siglwyr Cerddoriaeth
Gallwch greu cerddoriaeth gyda bwyd!
Bydd angen y canlynol arnoch:
Poteli plastig
Bwyd sych fel reis, ceirch, ffacbys, pasta, ffa
Camau:
- Ailgylchwch boteli plastig. Dylech eu glanhau a’u sychu.
- Arllwyswch wahanol fwyd sych i wahanol boteli. Peidiwch â’u llenwi’n ormodol neu fe allant fod yn drwm i’w dal / ddim yn gwneud sŵn.
- Sicrhewch fod y caeadau wedi’u cau’n dynn fel na fydd dim yn dianc.
- Gadewch i’r gerddoriaeth ddechrau! Chwaraewch eich hoff gân a dechreuwch ysgwyd i’r gerddoriaeth.
Dyma un o’r caneuon rydyn ni wrth ein bodd yn canu iddi yn NYLO…