News & Events Y Gwanwyn gyda NYLO 2024

Y Gwanwyn gyda NYLO 

Mae’r gwanwyn ar y gorwel – wrth iddi gynhesu a goleuo y tu allan, mae llawer mwy o gyfleoedd i fwynhau wrth chwarae! Mae tîm NYLO wedi dewis rhai gweithgareddau sy’n addas at y gwanwyn y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddynt.  

Mae’r gweithgareddau hyn yn ddelfrydol ar gyfer plant rhwng 1-5 oed. Cofiwch beidio â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth tra’n gwneud unrhyw un o’r gweithgareddau hyn.  

Coginio

Blodyn Cacen Reis

Cynhwysion:  

  • Cacennau reis  
  • Caws hufen  
  • Grawnwin  
  • Llus   

Offer:  

  • Bwrdd torri  
  • Cyllell  
  • Llwy de  

Sut i’w creu:  

  1. Torrwch y grawnwin yn chwarteri ar eu hyd i’w defnyddio’n hwyrach. (Mae hyn yn helpu i leihau’r siawns o dagu)  
  2. Taenwch ychydig o gaws hufen dros un ochr o’r gacen reis.  
  3. Ychwanegwch lusen yng nghanol y gacen reis.  
  4. Ychwanegwch 5 darn hanner o’r grawnwin i bob cacen reis i greu petalau blodau.  
  5. Mwynhewch!  

Beth gall y plant ei wneud:  

  • Taenu’r caws hufen  
  • Ychwanegu’r ffrwythau i greu’r blodau  

Sgiliau:  

  • Taenu  
  • Ychwanegu cynhwysion  

Potiau Salad Enfys

Cynhwysion:  

  • 350g o basta  
  • 200g o ffa gwyrdd, wedi’u tocio a’u torri i leihau’r hyd  
  • Can 160g o diwna mewn dŵr  
  • 6 llwy fwrdd o iogwrt naturiol  
  • Llond llaw o gennin syfi, wedi’u torri (dewisol)  
  • 200g o domatos bach, wedi’u chwarteru  
  • 1 pupur, wedi’i dorri’n giwbiau  
  • Can 195g o india-corn, wedi’i ddraenio  

Offer:  

  • Bwrdd torri  
  • Cyllell  
  • Clorian  
  • Sosban  
  • Rhidyll  
  • Llwy fwrdd  
  • Cynwysyddion oergell  

Cyn i chi ddechrau:  

  • Draeniwch y tiwna a’r india-corn  
  • Coginiwch, draeniwch ac oerwch y pasta a’r ffa gwyrdd  
  • Torrwch y tomatos bach yn chwarteri  

Sut i’w creu:  

  1. Cymysgwch y tiwna gyda’r iogwrt. Ychwanegwch y cennin syfi a chymysgu’n dda.   
  2. Rhowch y pasta mewn powlen fawr neu 4 o rai bach (perffaith ar gyfer picnic!).
  3. Rhowch y tiwna mayonnaise dros y pasta a’i wasgaru i greu haen. Ychwanegwch haen o ffa gwyrdd, haen o domatos bach, yna’r pupur a’r india-corn. Gorchuddiwch y cyfan a’i oeri nes eich bod yn barod i’w fwyta.   

Sgiliau:  

  • Haenu  
  • Cymysgu  

Gweithgaredd

Brwsh Paent Sbageti

Oeddech chi’n meddwl y gallech chi droi sbageti yn frws paent? Dyma sut y gallwch wneud hynny!  

Deunydd:  

  • Papur  
  • Sbageti  
  • Paent cymysg parod sy’n addas i blant  
  • Plât plastig/papur ar gyfer y paent  
  • Band elastig  
  • Hambwrdd mawr (dewisol)  

Camau:  

  1. Clymwch ychydig o sbageti ynghyd â band elastig.  
  2. Gofynnwch i oedolyn ferwi pot bach o ddŵr a choginiwch un pen o’r sbageti. Dim ond ychydig fodfeddi ar waelod y sbageti sydd angen eu coginio.  
  3. Oerwch y sbageti.  
  4. Yn y cyfamser, paratowch y paent a’r papur.  
  5. Unwaith y bydd y sbageti wedi’i oeri, gallwch chi ddechrau defnyddio’r brwsh paent sbageti.  

Ydych chi’n clywed yr hyn rwy’n ei glywed?

Pwy sydd ddim yn caru gêm ddyfalu? Gofynnwch i’ch plentyn ddyfalu’r bwyd rydych chi’n ei baratoi neu’n ei fwyta naill ai wrth goginio neu yn ystod amser bwyd. Mae pob math o amlygiad yn chwarae rhan bwysig, gan gynnwys profiadau synhwyraidd heblaw am flasu. Gallai hyn gynnwys gwrando, gweld, cyffwrdd ac arogli.   

Rhai syniadau o ran bwyd:  

Crensian afal/seleri/moron/pupur  

Malu craceri  

Cracio/chwisgo wyau  

Pilio banana  

Slyrpian cawl  

Bwyta tost / taenu ar dost  

Siglwyr Cerddoriaeth

Gallwch greu cerddoriaeth gyda bwyd!   

Bydd angen y canlynol arnoch:  

Poteli plastig  

Bwyd sych fel reis, ceirch, ffacbys, pasta, ffa  

Camau:  

  1. Ailgylchwch boteli plastig. Dylech eu glanhau a’u sychu.  
  2. Arllwyswch wahanol fwyd sych i wahanol boteli. Peidiwch â’u llenwi’n ormodol neu fe allant fod yn drwm i’w dal / ddim yn gwneud sŵn.   
  3. Sicrhewch fod y caeadau wedi’u cau’n dynn fel na fydd dim yn dianc.   
  4. Gadewch i’r gerddoriaeth ddechrau! Chwaraewch eich hoff gân a dechreuwch ysgwyd i’r gerddoriaeth.   

Dyma un o’r caneuon rydyn ni wrth ein bodd yn canu iddi yn NYLO…