News & Events Dechrau Coginio

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

Os hoffech gael lle ar gwrs Get Cooking, gofynnwch i’ch Ymwelydd Iechyd neu Nyrs Feithrin Gymunedol i lenwi ffurflen atgyfeirio ar eich cyfer.

Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â Thîm Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd eich hun drwy ffonio 029 20 907699.

Mae Get Cooking yn gwrs coginio 8 wythnos am ddim i famau, tadau a gofalwyr eraill. Cynhelir y sesiynau unwaith yr wythnos am ddwy awr yr un. Mae croeso i gogyddion profiadol a newydd!

Beth yw cynnwys y cwrs?

Mae’r sesiynau yn hwyl ac yn hamddenol a bydd y grŵp yn fach gyda thua 6-8 o bobl. Mae’r sesiynau i gyd yn cynnwys coginio ymarferol ac mae rhai yn cynnwys gweithgareddau am fwyta’n iach a diogelwch bwyd. Fel arfer byddwch yn coginio fel pâr neu mewn grŵp bach.

Beth fyddaf yn ei ddysgu o Get Cooking?

  • Rhoi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau coginio.
  • Syniadau ar gyfer prydau bwyd cyflym, hawdd a blasus y gall eich teulu cyfan eu mwynhau.
  • Gwneud o leiaf 12 o ryseitiau iach.
  • Anrheg am ddim wrth orffen y cwrs.
  • Y cyfle i ennill credydau Agored Cymru.
  • Cyfran am ddim o’r hyn rydych wedi’i wneud i fynd adref gyda chi i’w flasu gyda’ch teulu.
  • Cwrdd â rhieni neu ofalwyr eraill.
  • Awgrymiadau ar sut i gadw eich teulu’n iach hyd yn oed pan fydd arian yn brin.

Os oes gennych unrhyw anghenion dietegol arbennig, bydd tiwtor y cwrs yn trafod hyn gyda chi.

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

To book a place click on the link to complete the booking form, a member of the team will be in touch.  If you would prefer to speak to a member of the team call 029 20 907699 or call/text 07837 817378.

Enquire now

Other Family Programmes