Cyfarfod a'r Tim
Claire Fulthorpe
Deietegydd Arweinio
Hoff weithgaredd:
Coginio a mynd â’r ci am dro
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Mango/Madarch
Astudiais BSc Maeth Dynol a Deieteg ym Mhrifysgol Met Caerdydd (UWIC pan oeddwn i yno), fe wnes i gymhwyso fel Dietegydd yn 2007 ac ymunais â thîm Maeth a Deieteg BIP Caerdydd a’r Fro. Mae gen i amrywiaeth o brofiadau yn cefnogi gwahanol gymunedau yng Nghaerdydd ac wedi arbenigo mewn maeth yn y Blynyddoedd Cynnar ers 2014 pan ymunais â thîm Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd. Mae gofalu am fy 2 blentyn a fy nghi yn fy nghadw i’n brysur gartref.
Rydw i’n angerddol am arferion maeth da i blant ifanc ac yn mwynhau cefnogi teuluoedd i’w helpu i gyflawni hyn. Mae’r sesiynau NYLO yn hwyl i’r teulu cyfan ac yn cynnig llawer o awgrymiadau ymarferol i roi cynnig arnynt gartref.
Saida Rehman
Dietegyedd Iechyd Cyhoedd
Hoff weithgaredd:
Ioga
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Melon dŵr / pupurau cloch
Derbyniais fy niploma ôl-raddedig mewn Deieteg yn 2001. Ers hynny rwyf wedi gweithio ar draws gwahanol leoliadau mewn Deieteg ar draws Caerdydd a’r Fro. Ymunais â Thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd yn 2022 gan weithio o fewn y Tîm Blynyddoedd Cynnar.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda theuluoedd gan eu helpu i wneud newidiadau bach fel rhan o raglen ryngweithiol hwyliog i gyflawni deiet iach.
Ewa Zmyslowska-Rokicka
Dietegyedd Iechyd Cyhoedd
Hoff weithgaredd:
heicio a theithio
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
ffigs/moron
Astudiais BSc Maeth Dynol a Deieteg ym Met Caerdydd a chymhwyso fel deietegydd yn 2024. Yn fuan wedyn, ymunais â thîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd gan ddod â diddordeb oes mewn bwyd a maeth a ffordd iach o fyw, personoliaeth unigryw yn ogystal â sgiliau amrywiol a enillwyd mewn bywyd ac yn fy ngyrfaoedd yn y gorffennol. Ar ôl gweithio fel athrawes, swyddog gweinyddol a dehonglydd Gwasanaeth Cyhoeddus, mwynheais weithio gyda phobl o wahanol oedran a chefndir, a chefnogi eu hanghenion a/neu eu datblygiad. Rwy’n credu’n gryf bod deiet cytbwys a ffordd iach o fyw yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles hirdymor, ac yn cyfrannu’n fawr at atal clefydau.
Rwy’n mwynhau rhannu fy ngwybodaeth a’m harbenigedd am faeth a deiet cytbwys gyda theuluoedd yn y gymuned mewn awyrgylch hamddenol. Mae’n fraint cael cefnogi rhieni/gofalwyr plant ifanc i wella ffordd o fyw eu teuluoedd a meithrin perthynas iach â bwyd.
Rhiannon Dunlop
Dietegydd Iechyd y Cyhoedd
Hoff weithgaredd:
Anturiaethau cerdded a darganfod lleoedd newydd
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Banana/Moron
Astudiais BSc Maeth a Deieteg ym Mhrifysgol Robert Gordon a chymhwyso fel deietegydd yn 2019. Roeddwn i wedi teithio i Samoa i ddarparu prosiectau Maeth Iechyd y Cyhoedd gyda theuluoedd a phlant oed ysgol, cyn dewis Caerdydd a’r Fro fel fy nghartref. Rwyf wedi bod yn cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar gyda bwyta’n iach ers 2020 fel rhan o dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd a chyflwyno prosiectau Sgiliau Maeth am Oes. Rwy’n angerddol am helpu eraill i wneud dewis gwybodus ynghylch eu hiechyd.
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’n tîm cyfeillgar, gofalgar bob dydd, gan gefnogi teuluoedd i deimlo wedi’u grymuso i wneud newidiadau bach cynaliadwy a fydd yn cefnogi plant i gynnal deiet iach a chytbwys.
Sian Ponting
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Coginio a mynd i'r theatr
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Mefus / Tatws melys
Rwyf wedi cael y fraint o weithio mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn fel cynorthwyydd addysgu, yn cefnogi plant a’u teuluoedd. Yn ystod gwyliau’r haf, cefnogais yr ysgol drwy gydlynu’r rhaglen Bwyd a Hwyl a chyflwyno’r rhaglen faeth ar ôl ennill fy nghymhwyster Sgiliau Maeth am Oes Lefel 2. Rwyf hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen Dechrau Coginio yn y gymuned lle rwyf wedi gallu rhannu fy angerdd am fwyd a maeth. Rwy’n ymfalchïo’n fawr mewn bod yn rhan o dîm mor ymrwymedig a brwdfrydig sy’n ymdrechu i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r teuluoedd rydym yn ymgysylltu â nhw.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda theuluoedd o gymunedau amrywiol a gweithio’n agos gyda nhw er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol, gydol oes. Mae gallu gwneud hyn mewn ffordd mor hamddenol, sydd hefyd yn addysgiadol, yn gwneud y gwaith o’i gyflwyno’n hwyl ac yn rhyngweithiol.
Ela Vaida
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Cerdded
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Ceirios/Afocado
Astudiais Faeth a Rheoli Pwysau Lefel 3 ac wedi mwynhau gweithio yn y gymuned a chynnig gwybodaeth yn ymwneud â maeth i rieni.
Rydw i’n angerddol am weithio gyda theuluoedd, eu cefnogi i wneud dewisiadau iachach a chyflwyno plant i amrywiaeth o fwydydd a fydd o fudd i’w lles hirdymor.
Kehinde Adesanya
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Gwau, Crosio a Dawnsio
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Afocado / Sbigoglys Lagos
Astudiais BSc mewn Ffisioleg Ddynol ym Mhrifysgol Olabisi Onabanjo ac wedi hynny cefais radd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd o Brifysgol De Cymru yn 2023.
Mae darparu rhaglenni ymyrraeth maeth wedi bod yn graidd i fy mhrofiad. Rwyf wedi gweithredu rhaglenni ar draws tair Ardal Llywodraeth Leol yn Lagos, Nigeria lle bûm yn gweithio’n agos gyda theuluoedd plant â diffyg maeth (0-5 oed) ac oedolion hŷn sy’n byw gyda diabetes. Rwy’n frwd dros wella iechyd y boblogaeth drwy fesurau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar.
Gweithio gyda thîm amrywiol o weithwyr proffesiynol yw un o’r agweddau yr wyf yn ei charu fwyaf am fod yn rhan o raglen NYLO. Mae gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd amrywiol yn dod â’u natur unigryw, gan feithrin amgylchedd gwaith cydweithredol. Mae hefyd yn rhoi boddhad mawr i mi wybod bod fy ngwaith yn gwella iechyd a lles plant ifanc a’u teuluoedd yn uniongyrchol. Mae arsylwi canlyniadau cadarnhaol ein gwaith ar y gymuned yn rhoi boddhad mawr.
Sarah Jacques
Ymarferydd Deieteg Cynorthwyol
Hoff weithgaredd:
Rygbi cyffwrdd a thyfu ffrwythau a llysiau
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Ceiros / pannas
Astudiais Faeth a Deieteg ym Met Caerdydd fel myfyriwr ôl-raddedig. Cyn gweithio ym maes iechyd y cyhoedd, roeddwn yn ymwneud â nifer o brosiectau garddio therapiwtig. Rwyf wrth fy modd â’r ymdeimlad o gymuned sy’n datblygu trwy arddio a gweld hyder pobl yn tyfu dros amser.
Rwy’n gyffrous i weithio fel rhan o dîm NYLO, mae pawb yn hynod gyfeillgar a phroffesiynol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda theuluoedd a’u cefnogi i feithrin eu hyder wrth fwyta’n iach.
George Hatch
Dietetic Support Worker
Hoff weithgaredd:
Tennis
Hoff ffrwyth/llysieuyn:
Eirin gwlanog/India-corn
Cefais fy magu yn ardal Reading a symudais i Bournemouth i astudio fy BSc mewn Maeth. Gweithiais fel hyfforddwr campfa ochr yn ochr â rolau yn y GIG fel hyfforddwr ffitrwydd cyn dechrau fy ngradd Meistr mewn Deieteg ym mis Medi 2023, ac rwyf yma nawr! Rwy’n mwynhau coginio, cadw’n actif ac yn bennaf oll bwyta! Rwy’n cefnogi Dechrau Coginio a grwpiau NYLO i helpu rhieni i ddeall effaith maeth ar iechyd a lles eu rhai bach yn well.
Rwyf wrth fy modd â’r ymdeimlad o gymuned o amgylch y rhaglen, pobl o bob cefndir yn dod at ei gilydd gyda phwrpas a rennir: i wneud y gorau dros eu plant. Mae’r ffordd gydweithredol hon o weithio gyda grwpiau, lle mae rhieni yn aml yn gyrru’r sgwrs, yn caniatáu i ni deilwra sesiynau i ddynameg penodol y grŵp. Ac mae amser byrbrydau yn wych!