Syniadau ar gyfer coginio gyda phlant

Manteision coginio gyda phlant

Gall coginio gyda’ch plentyn o oedran ifanc gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr. Gall rhoi cyfle i blant archwilio bwyd mewn ffordd ddiogel a hwyliog y tu allan i amser bwyd helpu i leihau pryder ynghylch bwyd. Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd os ydynt wedi gweld o ble y daw ac wedi helpu gyda’r gwaith paratoi. Gall cael profiadau cadarnhaol dro ar ôl tro yn ystod gweithgareddau bwyd gynyddu hyder plentyn o amgylch bwyd, a helpu i sicrhau arferion bwyta iach yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gall coginio helpu i ddatblygu llawer o sgiliau

  • Cydlynu – torri, troi, gwasgu, stwnsio, cymysgu, rhwygo
  • Sgiliau echddygol manw – gwasgaru, llwyo, taenu, torri, tylino
  • Annibyniaeth – cyflawni tasgau ar eu pen eu hunain, pwyso a golchi ffrwythau a llysiau
  • Datblygiad gwybyddol – meddwl, datrys problemau a chreadigrwydd
  • Achos ac effaith
  • Iaith a rhifedd

Cofiwch y gall coginio gyda’ch un bach hefyd fod yn llawer o hwyl!