News & Events AC Accredited Training

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle cysylltwch â Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar 029 20 907699

Cwrs Sgiliau Bwyd Cymunedol a Maeth

Achredwyd gan Agored Cymru (Lefel 2, 3 chredyd)

Eisiau gwybod rhagor am fwyd a maeth?

Beth mae’r cwrs yn ei gwmpasu?

Nod y cwrs yw cynyddu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â bwyd a maeth. Yn dilyn y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu trosglwyddo gwybodaeth sylfaenol, gyfredol i’r rhai maent yn gweithio gyda hwy a’u cefnogi i fwyta’n iach. Bydd y cwrs yn darparu syniadau ac adnoddau i’w defnyddio gyda grwpiau o gleientiaid.

Bydd cefnogaeth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd eisiau rhoi eu dysgu ar waith a throsglwyddo negeseuon ynghylch bwyta’n iach i’w grwpiau.

Course content:

Modiwl 1 – Y Canllaw Bwyta’n Dda
Modiwl 2 – Maeth ac iechyd
Modiwl 3 – Rheoli pwysau iach
Modiwl 4 – Ffactorau sy’n effeithio ar ddewis bwyd a bwyta’n iach ar gyllideb gyfyngedig
Modiwl 5 – Rhwystrau i ddeiet iach a helpu pobl i newid eu hymddygiadMaeth ar gyfer grwpiau penodol o gleientiaid, plant cyn oed ysgol, plant oed ysgol, menywod beichiog, oedolion hŷn (dewiswch 2 opsiwn o’r rhestr)
Modiwl 8 – Cynllunio prydau ac addasu ryseitiau
Modiwl 9 – Ffeithiau a mythau am fwyd ac adnoddau bwyd a maeth defnyddiol

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Unrhyw un sy’n gweithio gyda theuluoedd a grwpiau yn y gymuned lle gellir annog negeseuon ynghylch bwyta’n iach, er enghraifft athrawon, gweithwyr ieuenctid, staff canolfannau hamdden, gwirfoddolwyr, y rhai hynny sy’n darparu gofal plant a’r rhai hynny sy’n gweithio gyda chleientiaid digartref.

Faint o ymrwymiad o ran amser sy’n ofynnol?

Mae’r cwrs yn cynnwys 20 awr o sesiynau wedi’u cyflwyno dros 10 sesiwn wythnosol, gyda phob sesiwn yn para 2 awr. Mae ychydig o astudio gartref yn ofynnol.

Y gost fesul person yw £20

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle cysylltwch â Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar 029 20 907699.

Other Training