News & Events Hyfforddiant Ymwelwyr Iechyd Caerdydd a’r Fro

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

Caiff gwybodaeth a dyddiadau ar gyfer rhaglen hyfforddiant eleni eu rhoi i Wasanaeth Ymwelwyr Iechyd BIP Caerdydd a’r Fro ar ddechrau pob blwyddyn. Mae galw mawr am y lleoedd felly ceisiwch drefnu lle yn gynnar i sicrhau nad ydych yn cael eich siomi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle cysylltwch â Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar 029 20 907699.

Mae Deietegwyr BIP Caerdydd a’r Fro yn darparu sesiynau diweddaru blynyddol ar gyfer Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd BIP Caerdydd a’r Fro.

Alergedd i Brotein Llaeth Buwch

Gwybodaeth glir ar sail tystiolaeth ynghylch nodi a rheoli alergedd i brotein llaeth buwch ymhlith babanod a phlant ifanc.

Bwydo Ategol (bwydo yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd)

Diweddariad ar y sylfaen dystiolaeth ynghylch bwydo ategol a maeth da yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd. Mae’r sesiwn yn cefnogi negeseuon allweddol o raglen atal gordewdra Iechyd Cyhoeddus Cymru, 10 Cam i Bwysau Iach. Mae’r gweithdy yn trafod bwydo babanod fegan, babanod cyn pryd, y rhai sydd wedi cael diagnosis alergedd i brotein llaeth buwch a babis sydd ag oedi datblygiadol.

Bwyta Ffwslyd V Anawsterau Bwyta Swyddogaethol

Diweddariad ar y gwaith o asesu a rheoli bwyta ‘ffwslyd’ ymhlith plant ifanc, yn cynnwys pryd i atgyfeirio at yr adran Deieteg/SLT neu glinig Bwydo ar y Cyd.

Llaeth Fformiwla Babanod yn y DU a Llaeth Fformiwla Arbenigol

Gwybodaeth ddiduedd, yn seiliedig ar dystiolaeth am y llaeth fformiwla babanod sydd ar gael yn y DU, yn cynnwys llaeth arbenigol a’u harwyddion clinigol. Bydd y sesiwn hon yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu cyngor clir a chywir ar ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.

Maeth Blynyddoedd Cynnar a Phwysau Iach

Diweddariad ar y negeseuon maeth allweddol ar gyfer plant ifanc a negeseuon y Canllaw Bwyta’n Dda ar gyfer y teulu cyfan. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn edrych ar ffyrdd o gefnogi teuluoedd sydd â phlentyn sydd dros bwysau iach, a phryd i atgyfeirio at y Gwasanaeth Deieteg Pediatrig. Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys canllaw gloywi ar sut i ddefnyddio siartiau twf er mwyn monitro twf iach yn y blynyddoedd cynnar.

Siarad gyda Theuluoedd am Bwysau

Bydd y gweithdy hwn yn defnyddio agweddau o’r dull MI i’ch cefnogi wrth drafod pwysau gyda theuluoedd a chael sgyrsiau am newid. Er ei fod yn canolbwyntio ar bwysau plant a gordewdra mewn plentyndod, gellir trosglwyddo’r sgiliau i lawer o feysydd ymarfer eraill

Problemau sy’n gysylltiedig â bwydo babanod

Gweithdy ymarferol, yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n edrych ar broblemau ymhlith babanod fel rhwymedd, colic, twf ansicr ac adlif, y gallent, neu na allent fod yn gysylltiedig â bwydo.

Bwyta ar gyfer 1, Iach ac Actif ar gyfer 2

Gwybodaeth ac adnoddau ar y canllawiau diweddaraf ar faeth, gweithgarwch corfforol a rheoli pwysau yn ystod beichiogrwydd. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys argymhellion ar fitaminau a chodi pwnc pwysau.

Sut alla i drefnu lle ar y cwrs?

Caiff gwybodaeth a dyddiadau ar gyfer rhaglen hyfforddiant eleni eu rhoi i Wasanaeth Ymwelwyr Iechyd BIP Caerdydd a’r Fro ar ddechrau pob blwyddyn. Mae galw mawr am y lleoedd felly ceisiwch drefnu lle yn gynnar i sicrhau nad ydych yn cael eich siomi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle cysylltwch â Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar 029 20 907699.

Other Training