Rieni / Gofalwyr
Rhaglenni i Deuluoedd
Gwybodaeth
Deiet Cytbwys I Blant Ifanc
Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda wedi’i gynllunio i ddangos i ni sut i gyflawni deiet iach a chytbwys sy’n cynnwys yr holl brif faetholion sydd eu hangen ar ein cyrff. Nid yw’n gymwys yn llawn i blant o dan 2 oed gan fod ganddynt anghenion maethol penodol, fodd bynnag, rhwng 2 a 5 oed, bydd plant yn symud yn raddol tuag at fwyta’r un bwyd â gweddill y teulu.
Mae’r fideo yn manylu ar y neges yn y Canllaw Bwyta’n Dda a sut mae’n berthnasol i blant ifanc.
Cân Bwyd Iach
Ymunwch â thîm NYLO wrth iddynt ganu am fwydydd sy’n cadw ein corff yn iach.
Ffrwythau a Llysiau
Dyma un o adrannau mwyaf y Canllaw Bwyta’n Dda felly mae’n bwysig bod plant yn bwyta llawer o’r bwydydd hyn. Maent yn cynnwys amrywiaeth o fitaminau a mwynau yn ogystal â bod yn ffynhonnell wych o ffibr.
Tatws, bara, reis, pasta a charbohydradau startshlyd eraill
Mae’r grŵp hwn hefyd yn un o adrannau mwyaf y Canllaw Bwyta’n Dda a dylid ei gynnwys gyda phob pryd ac, yn ddelfrydol, fel un byrbryd. Mae’r bwydydd hyn yn rhoi egni, ffeibr a fitaminau B i’r corff ac mae rhai ohonynt wedi’u cyfnerthu â haearn.
Llaeth ac opsiynau amgen
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys bwydydd megis llaeth (gan gynnwys llaeth o’r fron), caws, iogwrt ac opsiynau llaeth amgen. Mae’r bwydydd hyn yn ffynhonnell wych o galsiwm sydd hefyd ei angen ar gyfer esgyrn a dannedd cryf ac maent hefyd yn ffynhonnell dda o brotein.
Ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
Mae’r bwydydd hyn yn ffynhonnell wych o brotein. Mae protein yn bwysig er mwyn tyfu ac adeiladu cyhyrau sy’n arbennig o bwysig i blant. Maent hefyd yn cynnwys lefel uchel o haearn a sinc.
Olewau a thaeniadau
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys olewau annirlawn a thaeniadau wedi’u creu o’r olewau hyn. Mae brasterau annirlawn yn dod o fraster planhigion ac yn ddewis iachach ar gyfer ein calon. Enghreifftiau o’r rhain yw olew llysiau, olew blodau’r haul neu olew olewydd a thaeniadau sydd wedi’u creu o’r olewau hyn. Hon yw’r adran leiaf felly dim ond ychydig o’r bwydydd hyn sydd eu hangen ar blant.
Diodydd
Dŵr a llaeth yw’r hylifau gorau i blant. Dylent anelu at yfed 6-8 diod bob dydd. Ar ddiwrnodau cynhesach neu pan fyddant yn gwneud mwy o ymarfer corff, mae’n bosibl y bydd angen mwy na hyn arnynt.
Bwyd sy’n llawn braster dirlawn, halen a siwgr
Y mathau o fwyd sy’n rhan o’r grŵp hwn yw siocled, menyn, bisgedi, hufen, losin, diodydd meddal siwgr llawn, creision, ciwbiau stoc a hufen iâ. Mae hefyd yn cynnwys brasterau fel menyn, menyn gloyw, olew cneuen goco a hufen. Mae’r grŵp hwn y tu allan i’r prif Ganllaw Bwyta’n Dda gan nad yw’r bwydydd hyn yn rhan hanfodol o ddeiet, felly dylid bwyta symiau bach ohonynt ac yn llai aml.
Awgrymiadau i arbed amser ac arian
Gall bywyd teuluol fod yn brysur, gall fod yn anodd cydbwyso ymrwymiadau gwahanol a dod o hyd i amser i ddarparu prydau bwyd maethlon i’r teulu. Mae’r fideo yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar ffyrdd o fwydo eich teulu’n dda wrth arbed amser ac arian.
Maint Dognau
Maint Cyfran Fideo
Syniadau am fyrbrydau iach
Gall byrbrydau iach fod yn gyfle gwych i roi’r prif faetholion sydd eu hangen ar eich plentyn ar gyfer iechyd a datblygiad cyffredinol. Ceisiwch ganolbwyntio ar gynnig byrbrydau o’r prif grwpiau bwyd
- Ffrwythau a Llysiau
- Carbohydradau – bara, reis, tatws, pasta a grawnfwydydd eraill
- Protein – cig, pysgod, wyau a ffa
- Llaeth a chynnyrch llaeth
Rydym yn gwybod nad yw plant yng Nghymru yn bwyta digon o fwydydd o’r grŵp bwyd ffrwythau a llysiau. Mae byrbryd yn gyfle gwych i gynnig y bwydydd hyn naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â grŵp bwyd arall, er enghraifft gallech roi cynnig ar ychwanegu ffrwythau at iogwrt neu ychwanegu llysiau at gacen reis. Gallech hefyd roi cynnig ar ein rysáit Wynebau Ffrwyth.
Mae carbohydradau yn rhoi’r egni sydd ei angen ar blant i fod yn actif felly gallant fod yn syniad gwych am fyrbryd. Ond cofiwch sicrhau nad oes ganddynt fraster, siwgr na halen ychwanegol. Gallai rhai byrbrydau carbohydrad gynnwys cacennau reis, cacennau ceirch, wrap bach neu dost. Gallwch hefyd ychwanegu rhai ffrwythau neu lysiau atynt i roi hwb i’r fitaminau a’r mwynau.
Rydym yn gwybod y gall bwydydd protein wneud i blant deimlo’n fwy llawn am gyfnod hirach, wrth ddarparu ffynhonnell dda o haearn hefyd. Gall byrbrydau gynnwys menyn cnau, wyau a hwmws.
Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn darparu calsiwm a phrotein i blant, sy’n bwysig ar gyfer esgyrn a dannedd cryf. Gall bwyta’r bwydydd hyn fel byrbrydau helpu i sicrhau eu bod yn cael digon o’r maetholion hyn. Gallech roi cynnig ar iogwrt plaen gyda ffrwythau ychwanegol neu gaws ar graceri
Yn aml, gall opsiynau byrbryd llai iach olygu rhoi llawer o fraster, siwgr a halen i blant. Ceisiwch gyfyngu ar fwydydd fel creision, siocled, cacennau, losin, bisgedi a hufen iâ.
Mae hefyd yn bwysig ystyried faint o’r rhain y mae eich plentyn yn bwyta. Gall gormod o fyrbrydau eu llenwi, gan eu gwneud yn llai tebygol o fwyta eu prif bryd bwyd. Fel canllaw, gallwch gynnig 2 fyrbryd iach bob dydd. Mae plant wrth eu bodd yn paratoi byrbrydau iach, felly ceisiwch eu hannog i helpu i daenu bwydydd a’u cefnogi i dorri bwydydd.
Dyma rai syniadau am fyrbrydau sy’n cynnwys rhai o’r prif grwpiau bwyd:
AWGRYM – Cofiwch edrych ar label byrbryd eich plentyn i sicrhau ei fod yn ddewis iach!
Sardîns ar dost gyda seleri
Cramwyth (crumpets) gyda chaws meddal a sleisiau pupur
Brechdanau bach afocado a salsa tomato
Cacennau ceirch gyda menyn cnau Brasil a satswmas
Fideo siwgr mewn byrbrydau a diodydd
Animeiddiad hoff fyrbrydau
Aelodau tîm NYLO yn siarad am eu hoff fyrbrydau.
Delio â phlant sy’n ffyslyd gyda’u bwyd
Mae plant yn aml yn mynd trwy gyfnodau o fwyta ffwdan. Mae’r fideo hwn yn rhannu awgrymiadau ar sut i annog eich plentyn i roi cynnig ar fwydydd newydd.
Mae llawer o blant ifanc yn mynd trwy gyfnodau o wrthod rhoi cynnig ar fwydydd newydd neu wrthod bwydydd yr oeddent yn arfer eu mwynhau. Gall hyn beri pryder neu fod yn rhwystredig i rieni a gofalwyr.
Mae’r rhan fwyaf o blant yn tyfu allan o fwyta ffyslyd ac yn dysgu bwyta amrywiaeth o fwydydd
Gall yr awgrymiadau canlynol helpu i reoli’r cam hwn
1
Rhowch ddigon o gyfleoedd i’ch plentyn weld, arogli a chyffwrdd amrywiaeth o fwydydd y tu allan i amser bwyd. Gall hyn fod trwy chwarae gyda bwyd er enghraifft chwarae blêr, gweithgareddau coginio, crefftau gan ddefnyddio bwydydd go iawn, llyfrau a chaneuon.
2
Mae rhai plant yn fwy sensitif i wahanol weadau, felly gall annog chwarae synhwyraidd eu helpu i deimlo’n gyfforddus i roi cynnig ar weadau newydd. Mae chwarae’n flêr gyda thoes, dŵr a thywod yn weithgareddau da i roi cynnig arnynt. Dechreuwch gyda gweadau bwyd sych fel reis a symudwch yn raddol at weadau gwlypach fel toes.
3
Gadewch i blant fod yn rhan o ddewis yr hyn maen nhw am ei fwyta ond cyfyngwch eu dewisiadau fel nad ydynt yn teimlo wedi’u llethu. Yn hytrach na gofyn ‘Beth hoffech chi fel byrbryd?’, gofynnwch ‘Hoffech chi afal neu fanana fel byrbryd heddiw?’
4
O oedran ifanc, gall plant fod yn rhan o amser bwyd, o gael bwyd bys fel y gallant fwydo eu hunain, hyd at helpu i ledaenu haenau, arllwys eu diod eu hunain a sleisio ffrwythau meddal
5
Mae’n gyffredin i blant wrthod bwyd newydd, daliwch ati i gynnig yr un bwyd yn ystod amser bwyd arall. Gall gymryd 15-20 gwaith i blentyn dderbyn bwyd newydd.
6
Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd os yw’n cael ei gynnig gyda bwydydd y maent eisoes yn eu mwynhau. Maen nhw’n dysgu trwy gopïo eraill felly ceisiwch fwyta prydau gyda’ch gilydd a gadewch iddyn nhw eich gweld chi’n bwyta amrywiaeth o fwydydd.
7
Ceisiwch beidio â chynhyrfu amser bwyd a pheidiwch â dangos eich bod yn poeni nad yw eich plentyn yn bwyta.
1
Nid yw plant ifanc yn bwyta’n dda os ydyn nhw’n llwglyd neu’n flinedig iawn, felly ceisiwch osgoi hyn trwy osod trefn ddyddiol o 3 phryd a 2-3 byrbryd y dydd.
2
Sefydlwch ardal ar gyfer bwyta, yn ddelfrydol gyda bwrdd y gallwch chi i gyd eistedd o’i gwmpas.
3
Diffoddwch unrhyw beth a allai dynnu sylw eich plentyn, e.e. teledu neu iPad a rhowch y teganau i un ochr.
4
Bwytewch gyda’ch gilydd cymaint â phosibl. Siaradwch am fwydydd rydych chi’n eu mwynhau a cheisiwch osgoi gwneud sylwadau negyddol am fwydydd. Gall amser bwyd fod yn amser gwych i helpu sgiliau iaith eich plentyn.
5
Mae dysgu bwyta yn sgil newydd sy’n cymryd amser, gan arwain at lanast. Dylech drin damweiniau mewn ffordd ddigynnwrf. Peidiwch â sychu dwylo ac wyneb eich plentyn yn ystod y pryd bwyd, arhoswch tan ddiwedd y pryd i’w glanhau.
6
Gall dognau mawr fod yn llethol. Dechreuwch gyda dognau bach. Os ydynt wedi gorffen, dylech ganmol eich plentyn a chynnig mwy.
7
Cadwch amser bwyd i 20-30 munud, mae’n annhebygol y bydd plant yn bwyta mwy ar ôl yr amser hwn
8
Ceisiwch osgoi gwneud pryd hollol wahanol os yw eich plentyn yn gwrthod pryd o fwyd. Yn hytrach, ceisiwch gynnig 2 gwrs, prif bryd bwyd a phwdin maethlon fel ffrwythau ac iogwrt, i roi cyfle arall i’ch plentyn fwyta.
9
Peidiwch â rhoi byrbrydau neu ddiodydd yn rhy agos at amser bwyd – gall hyn lenwi eich plentyn cyn prydau bwyd.
10
Ceisiwch gadw amser bwyd yn dawel a mynd ag unrhyw fwyd sydd heb ei fwyta oddi yno heb ddweud dim. Ceisiwch anwybyddu ffysio yn ystod amser bwyd, gall rhoi llawer o sylw i’ch plentyn pan nad yw’n bwyta ei annog i barhau i ymddwyn fel hyn.
11
Daliwch ati i gynnig bwyd hyd yn oed os yw eich plentyn wedi gwrthod yr un bwyd o’r blaen – gall gymryd 15-20 gwaith i blentyn roi cynnig ar fwyd newydd.
12
Rhowch ganmoliaeth a sylw i’ch plentyn pan yn bwyta’n dda neu’n rhoi cynnig ar fwydydd newydd.
13
Rhowch gynnig ar fwydydd mewn gwahanol ffurfiau, er enghraifft efallai na fydd plentyn yn bwyta moron wedi’u coginio ond mae’n bosibl y bydd yn bwyta moron amrwd.
14
Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd newydd os ydynt yn cael eu cynnig gyda bwydydd y maent eisoes yn eu hoffi. Ceisiwch roi bwydydd newydd mewn powlen neu blât ar wahân.
15
Peidiwch byth â gorfodi plentyn i fwyta. Mae defnyddio pwysau, grym neu orfodi eich plentyn i fwyta yn aml yn cael effaith i’r gwrthwyneb.
16
Gadewch i’ch plentyn benderfynu faint i’w fwyta, mae plant ifanc yn dda iawn am reoleiddio eu harchwaeth eu hunain. Gall eu harchwaeth amrywio o ddydd i ddydd felly gallant fwyta mwy ar rai dyddiau nag eraill. Os yw eich plentyn yn dangos arwyddion ei fod wedi cael digon, ewch â’r bwyd oddi yno heb ddweud dim.
Gwobrau nad ydynt yn fwyd
Mae llawer o ffyrdd i wobrwyo neu gysuro eich plentyn heb ddefnyddio bwyd.
Syniadau yn cynnwys:
- Canmoliaeth, clapio a dweud da iawn.
- Cofleidio a chusanu i gysuro eich plentyn.
- Sticeri.
- Hoff gêm neu weithgaredd.
- Taith i’r parc.
Prydau braf
Mae tîm NYLO yn dangos i ni sut maen nhw’n paratoi ac yn mwynhau amser bwyd gyda’i gilydd.
Bwyta’n fympwyol mewn plant
Syniadau ar gyfer coginio gyda phlant
Manteision coginio gyda phlant
Gall coginio gyda’ch plentyn o oedran ifanc gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr. Gall rhoi cyfle i blant archwilio bwyd mewn ffordd ddiogel a hwyliog y tu allan i amser bwyd helpu i leihau pryder ynghylch bwyd. Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd os ydynt wedi gweld o ble y daw ac wedi helpu gyda’r gwaith paratoi. Gall cael profiadau cadarnhaol dro ar ôl tro yn ystod gweithgareddau bwyd gynyddu hyder plentyn o amgylch bwyd, a helpu i sicrhau arferion bwyta iach yn nes ymlaen mewn bywyd.
Gall coginio helpu i ddatblygu llawer o sgiliau
- Cydlynu – torri, troi, gwasgu, stwnsio, cymysgu, rhwygo
- Sgiliau echddygol manw – gwasgaru, llwyo, taenu, torri, tylino
- Annibyniaeth – cyflawni tasgau ar eu pen eu hunain, pwyso a golchi ffrwythau a llysiau
- Datblygiad gwybyddol – meddwl, datrys problemau a chreadigrwydd
- Achos ac effaith
- Iaith a rhifedd
Cofiwch y gall coginio gyda’ch un bach hefyd fod yn llawer o hwyl!
Recipes for cooking with children
Cynhwysion
- 4 llwy de o biwrî tomato
- 4 llwy fwrdd o gaws wedi’i gratio
- Dewis o ychwanegion: Cyw iâr wedi’i goginio a’i dorri, pupur wedi’u sleisio, winwns wedi’u torri’n fân, corn melys, madarch wedi’u sleisio, darnau pîn-afal, naddion tiwna o dun (mewn dŵr ffynnon)
Offer
Bwrdd torri, cyllell, llwy de, gratiwr, llwy fwrdd, agorwr tun, hambwrdd pobi
Cyn i chi ddechrau
- Torrwch y myffins yn hanner
- Paratowch yr ychwanegion
- Gratiwch y caws
Sut i’w greu
- Cynheswch y ffwrn i 200oC / ffan 180oC / Marc Nwy 4.
- Taenwch lwy de o biwrî tomato dros bob hanner o’r myffins
- Gwasgarwch lwy fwrdd o gaws wedi’i gratio dros bob hanner o’r myffins.
- Gosodwch yr ychwanegion o’ch dewis. I’w wneud yn hwyl, gallwch greu wyneb neu batrwm gyda’r ychwanegion
- Rhowch y pitsas bach ar hambwrdd pobi a’u rhoi ar silff ganol y ffwrn.
- Coginiwch am 10 – 15 munud, hyd nes bod y caws wedi toddi a bod y myffins wedi’u tostio’n ysgafn.
Beth y gall eich plentyn ei wneud
- Taenu’r piwrî tomato dros hanner y myffin
- Gwasgaru’r caws wedi’i gratio
- Helpu i dorri’r ychwanegion
- Gosod yr ychwanegion o’u dewis. Gallant hefyd greu wyneb neu batrwm gyda’r ychwanegion o’u dewis
Sgiliau
- Taenu, torri
Ryseitiau byrbrydau iach
Cynhwysion
Detholiad o ffrwythau fel grawnwin, aeron (mefus, mafon, llus, mwyar duon), ciwi, darnau pîn-afal, satswma (unrhyw oren bach), mango, melon
Offer
Hidlwr, bwrdd torri, cyllell, piliwr, tröydd coffi
Cyn i chi ddechrau
- Golchwch y ffrwythau
- Tynnwch y coesyn o’r mefus
- Piliwch a thynnwch y garreg o’r mango
- Sleisiwch y melon yn siapau cylch
- Piliwch y ffrwythau ciwi
Sut i’w greu
- Paratowch y ffrwythau
a) Sleisiwch y darnau grawnwin ar eu hyd
b) Sleisiwch a hanerwch y darnau ciwi
c) Piliwch a gwahanwch y satswma
d) Torrwch y mango yn giwbiau
e) Torrwch y melon yn giwbiau - Gwthiwch y ffrwythau ar y tröydd coffi yn nhrefn lliwiau’r enfys
Dangos i’r plant
- Sut i baratoi ffrwythau (e.e. defnyddio dull y ‘bont’ i dorri’r mefus a’r ciwi yn hanner)
- Sut i dynnu croen y ffrwyth ciwi gyda philiwr, os ydych chi’n defnyddio ciwi
- Sut i roi’r ffrwythau ar y tröydd coffi
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn):
- Torri’r ffrwythau
- Pilio’r ffrwythau ciwi
- Gwthio’r ffrwythau ar y tröydd
Sgiliau
- Torri, pilio, gwthio
Syniadau ac Awgrymiadau
- Gellir defnyddio ffrwythau tun mewn sudd naturiol hefyd, fel pîn-afal ac eirin gwlanog o dun
- Beth am ei weini’n gynnes gan ei roi o dan y gril am ychydig funudau, ei droi unwaith a’i weini gydag iogwrt naturiol
Cynhwysion
- 1 wrap tortilla meddal
- Iogwrt plaen – 2 lwy bwdin fesul tortilla
- Detholiad o ffrwythau e.e. melon, oren bach (clementin, mandarin, satswma), mefus, llus, bananas, afalau, pîn-afal ac ati
Offer
Bwrdd torri, plât, hidlwr, llwy bwdin, cyllell llysiau, gratiwr, teclynnau torri bach, llwy de
Cyn i chi ddechrau
- Golchwch y ffrwythau na fyddwch chi’n tynnu eu croen
- Piliwch a thorrwch y melon yn sleisiau crwn fflat
- Torrwch yr afalau yn chwarteri a thynnwch y craidd
- Tynnwch y coesyn o’r mefus
Sut i’w greu
1. Rhowch y wrap tortilla ar blât
2. Paratowch y ffrwythau:
a. Torrwch amrywiaeth o siapiau yn y sleisiau melon (h.y. cylchoedd ar gyfer llygaid) gan ddefnyddio’r teclyn torri
b. Piliwch yr orenau a thynnwch y segmentau oddi wrth ei gilydd
c. Torrwch y mefus yn sleisiau/haneri
d. Tynnwch groen y fanana a’i thorri
e. Gratiwch yr afal
3. Taenwch yr iogwrt ar y tortilla gan ddefnyddio cefn llwy de
4. Trefnwch y ffrwythau ar y tortilla gan greu siâp ‘wyneb’, er enghraifft
a. Gwallt – afal wedi’i gratio
b. Llygaid – cylchoedd melon neu sleisiau banana gyda llusen yn y canol
c. Clustiau a thrwyn – sleisiau mefus neu segmentau oren
d. Ceg – gwên o lus neu segmentau oren
5. I’w fwyta, naill ai torrwch ef yn chwarteri, neu ei rolio i mewn i wrap a’i dorri’n hanner
6. Gweinwch ef ar unwaith
Dangos i’r plant
- Sut i baratoi ffrwythau (e.e. defnyddio dull y ‘bont’ i dorri’r mefus a’r ciwi yn hanner)
- Sut i dynnu croen y ffrwyth ciwi gyda philiwr, os ydych chi’n defnyddio ciwi
- Sut i roi’r ffrwythau ar y tröydd coffi
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn):
- Golchi’r ffrwythau heb groen, gan ddefnyddio’r hidlwr
- Torri’r siapiau melon gan ddefnyddio’r teclyn torri
- Pilio’r oren bach a thynnu’r segmentau oddi wrth ei gilydd
- Torri’r mefus yn eu hanner gan ddefnyddio dull y ‘bont’
- Pilio a sleisio’r fanana gan ddefnyddio dull y ‘bont’
- Gratio’r afal
- Taenu’r iogwrt gyda chefn llwy de
- Trefnu’r ffrwythau mewn siâp ‘wyneb’
Sgiliau
- Torri, pilio, gwthio
Syniadau ac Awgrymiadau
- Add some herbs or other flavours i.e. beetroot, grated carrot, pea
- Serve with pita bread and vegetable fingers i.e. carrots, peppers, cucumber
Cynhwysion
- Craceri
- Hwmws, caws hufen, guacamole neu biwrî tomato
- Ychwanegion o’ch dewis er enghraifft pupurau wedi’u torri, corn melys o dun, moron wedi’u gratio, mefus wedi’u sleisio, grawnwin wedi’u haneru, llus ac ati
Offer
Bwrdd torri, cyllell llysiau, llwy de
Cyn i chi ddechrau
- Golchwch y ffrwythau a’r llysiau a ddewiswyd
- Paratowch y cynhwysion ar gyfer yr ychwanegion a’u rhoi yn y powlenni (gall y plant helpu i baratoi’r rhain)
Sut i’w greu
- Ewch â llwy de o’r hwmws neu’r caws hufen a, gan ddefnyddio cefn y llwy de, taenwch ef dros y gracer
- Rhowch yr ychwanegion a baratowyd ar y craceri mewn dyluniad o’ch dewis!
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn):
- Helpu i dorri’r ychwanegion
- Taenu’r haen waelod gyda chefn llwy de
- Gosod yr ychwanegion ar y gracer
Sgiliau
- Torri, taenu, addurno
Syniadau ac Awgrymiadau
- Gofynnwch i’ch plentyn dynnu llun o ddyluniad ymlaen llaw
- Ceisiwch wneud wyneb anifail, patrymau gwahanol neu gerbyd hyd yn oed!
- Beth am roi cynnig ar ddefnyddio craceri o fath neu siâp gwahanol
Cynhwysion
- 1 x can 400g o ffacbys, wedi’u draenio a’u rinsio
- 1-2 ewin garlleg
- Sudd 1 lemwn
- 3 llwy fwrdd o iogwrt plaen
- 50ml o ddŵr oer (os oes angen)
- Pupur du
Offer
Powlen gymysgu, agorwr tun, hidlwr, stwnsiwr tatws neu fforc, chwalwr garlleg, gwasgwr lemwn, llwy fwrdd a llwy de
Cyn i chi ddechrau
- Agorwch a draeniwch y tun o ffacbys
Sut i’w greu
- Rhowch y ffacbys i mewn i’ch powlen gymysgu a’u stwnsio gyda’r stwnsiwr tatws nes bod pâst garw’n cael ei ffurfio.
- Piliwch yr ewinedd garlleg a’u gwasgu gyda’r chwalwr garlleg. Ychwanegwch hwn at y pâst ffacbys.
- Sleisiwch y lemwn yn ei hanner a gwasgwch bob hanner i mewn i gymysgedd y ffacbys.
- Ychwanegwch 3 llwy fwrdd o iogwrt plaen a phinsiad o bupur du a’i droi’n dda.
Show the children
- How to prepare fruit (e.g. using the ‘bridge’ to the cut strawberries and kiwi in half)
- How to peel the kiwi fruit with a peeler if using kiwi
- How to thread the fruit onto the coffee stirrers
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn):
- Helpu i stwnsio’r ffacbys
- Malu’r ewinedd garlleg
- Helpu i sleisio a gwasgu’r lemon
- Sgwpio ac ychwanegu’r iogwrt plaen
- Ychwanegu pinsiad o bupur du
Skills
- Cutting, peeling, threading
Syniadau ac Awgrymiadau
- Ychwanegwch ychydig o berlysiau neu flasau eraill h.y. betys, moron wedi’u gratio, pys
- Gweinwch ef gyda bara pita a bysedd llysiau h.y. moron, pupur, ciwcymbr
Animeiddiad wynebau ffrwyth
Nancy Nectarîn yn siarad am ei hoff weithgaredd bwyd a byrbryd.
Syniadau ar gyfer gweithgareddau
Beth fydd ei angen arnoch i ddechrau arni:
- Pasta sbageti
- Amrywiaeth o diwbiau pasta a siapiau pasta gwahanol sydd â thwll yn eu canol fel penne, macaroni, rigatoni, cannelloni, siâp olwyn (rotelle), neu siapiau cymeriadau
- Lliw bwyd gwahanol (dewisol os ydych yn lliwio’r pasta)
- Finegr (dewisol os ydych yn lliwio’r pasta)
- Toes
- Glanhawyr pibelli, gwellt neu sbageti (gwlân, cortyn, careiau ar gyfer plant hŷn)
- Bagiau rhewgell ailseliadwy neu gynhwysydd â chlawr seliadwy
Sut i’w greu:
- Er mwyn lliwio eich pasta, rhowch dalp o liw bwyd a llwy de o finegr mewn bag ailseliadwy/cynhwysydd, a’u cymysgu.
- Ychwanegwch y pasta a cheisio ei orchuddio gyda’r lliw. Gofynnwch i’ch plentyn symud y pasta yn y bag plastig yn araf, neu ysgwyd y cynhwysydd fel bod y lliw yn gorchuddio’r pasta i gyd.
- Os nad yw’r lliw wedi gorchuddio’r pasta i gyd neu os ydych chi eisiau lliw mwy llachar, gallwch ychwanegu llwy de arall o finegr neu fwy o liw bwyd.
- Rhowch y pasta gyda’r lliw arno ar hambwrdd neu hambwrdd pobi a’i adael i sychu. Yn ddelfrydol dros nos, ond dylai sychu o fewn ychydig oriau.
- Defnyddiwch un lliw, neu sawl lliw, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ailadrodd camau 1 – 4 ond gyda lliw bwyd gwahanol!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 12 mis – 2 flwydd oed:
- Gwnewch siapiau peli o’r toes ar hambwrdd neu ar ben bwrdd, a’u gwasgu ychydig.
- Rhowch y pasta sbageti yn y toes, neu gallech ddefnyddio gwelltyn, a sicrhewch ei fod yn sownd. Rhowch y siapiau pasta i’ch plentyn er mwyn iddo fynd ati i greu cadwyni!
- Efallai y byddai’n well defnyddio’r tiwbiau mwy o basta gyda phlant ifancach, yna wrth iddynt ddod yn gyfarwydd â’r gweithgaredd, gallent symud i ddefnyddio’r darnau llai o basta
- Cadwch y pasta mewn cynhwysydd y gellir ei selio’n dynn, a’i ddefnyddio dro ar ôl tro!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 2 – 5 mlwydd oed:
- Wrth i’ch plentyn dyfu gallech symud ymlaen i ddefnyddio darn hir o wlân (neu ruban, cortyn neu garrai) i wneud cadwyni neu freichledau pasta! Mae’n well lapio ychydig o dâp gludiog o amgylch gwaelod y gwlân gan y bydd hyn ei gwneud yn haws creu’r cadwyni, oherwydd bydd y gwlân yn mynd yn hawdd drwy’r tyllau yn y siapiau pasta.
Beth fydd ei angen arnoch:
- Ffrwythau fel afal, oren, lemwn, gellygen
- Llysiau fel tatws, blodfresych, pupur, moron, india-corn cyfan, madarch, bresych
- Papur
- Paent sy’n barod i’w ddefnyddio mewn lliwiau gwahanol
- Plât/cynwysyddion/hambwrdd (ar gyfer y paent)
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Sbwng neu frwsh paent (dewisol)
- Papur newydd/papur cegin
Sut i’w greu:
- Golchwch y ffrwythau a’r llysiau byddwch yn eu defnyddio a’u sychu â thywel.
- Gan ddefnyddio’r bwrdd torri, torrwch eich ffrwythau a llysiau yn eu hanner gyda chyllell. Mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud gyda’ch plentyn – edrychwch ar ein ffilm ar syniadau am fyrbrydau iach sy’n dangos technegau torri diogel gwahanol.
- Sychwch yr ochr sydd wedi’i thorri gydag ychydig o bapur cegin neu bapur newydd er mwyn amsugno’r lleithder, oherwydd bydd hyn yn helpu’r paent i lynu’n well.
- Arllwyswch y paent rydych yn ei ddefnyddio i mewn i gynhwysydd bas, fel plât neu ddysgl. Os ydych yn defnyddio mwy nag un lliw, ychwanegwch y paent i blatiau niferus ar gyfer y lliwiau gwahanol.
- Gallwch naill ai ychwanegu’r paent drwy ddefnyddio sbwng neu frwsh paent, neu gallwch osod y ffrwythau yn syth i mewn i’r paent. Sicrhewch fod y darn wedi’i orchuddio’n gyfartal gyda chot denau o baent.
- Gwasgwch y ffrwyth/llysieuyn yn gadarn i’r papur, gyda’r ochr sydd â’r inc yn wynebu i lawr, ac yna ei dynnu i ffwrdd – dyna eich argraffiad cyntaf wedi’i greu!
- Nawr gallwch edrych ar ffyrdd o argraffu gyda ffrwythau a llysiau gwahanol, wedi’u torri mewn siapiau gwahanol er mwyn creu lluniau gwych!
Syniadau ac Awgrymiadau
- Ceisiwch ddefnyddio ffrwythau cadarn gan eu bod yn creu argraffiad mwy gweladwy
- Peidiwch â defnyddio gormod o baent oherwydd gall beri i amlinelliad yr argraffiad ymddangos yn aneglur
- Gwnewch batrymau a lluniau yn defnyddio llysiau gwahanol gyda’i gilydd. Er enghraifft, torrwch y blodfresych yn ddarnau unigol a’u defnyddio i greu llun o goeden fawr!
- Peidiwch â bwyta’r ffrwythau a’r llysiau wedi i chi eu defnyddio gyda’r paent oherwydd gallai hyn eich gwneud yn sâl.
- Peidiwch ag anghofio gadael i’ch paentiad sychu am ychydig oriau unwaith y byddwch wedi gorffen.
Bydd eich plant bach wrth eu boddau yn chwarae gyda reis heb ei goginio, mae’n gynhwysyn amrywiol y gellir ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol – dro ar ôl tro. Gallwch ddefnyddio’r reis fel ag y mae, neu gallwch ei liwio’n wahanol liwiau’r enfys, neu hyd yn oed ychwanegu sawrau gwahanol – a fydd yn datblygu dychymyg a phrofiad synhwyraidd eich plentyn hyd yn oed yn fwy!
Beth bydd eich angen arnoch:
- Bag mawr o reis
- Bagiau plastig ailseliadwy
- Lliw bwyd mewn amrywiaeth o liwiau gwahanol
- Finegr (dewisol)
- Hambwrdd
- Cynhwysydd mawr
Sut i liwio eich reis
- Rhannwch y reis rhwng y bagiau seliadwy.
- Ychwanegwch ychydig ddiferion o bob lliw rydych yn ei ddefnyddio i bob bag o reis.
- Seliwch y bag a’i ysgwyd i ddosbarthu’r lliw. Mae hyn yn rhywbeth y bydd eich plentyn yn mwynhau ei wneud!
- Gallwch ychwanegu llwyaid o finegr, oherwydd gall hyn helpu’r lliw i bara’n hirach.
- Lledaenwch y reis ar hambwrdd i sychu – dylai fod yn sych o fewn ychydig oriau.
Unwaith y bydd y reis yn sych, arllwyswch i mewn i gynhwysydd mawr neu bowlen fas a rhowch gynnig ar y gweithgareddau gwahanol hyn! Os ydych yn defnyddio cynhwysydd llai o faint, gallai fod yn syniad rhoi lliain neu fat chwarae oddi tano i gadw’r reis mewn un lle!
Gweithgareddau ar gyfer babanod 12 mis – 2 flwydd oed
- Os ydych yn defnyddio lliwiau gwahanol gallech eu trefnu mewn patrwm neu gymysgu’r lliwiau gyda’i gilydd.
- Rhowch gynnig ar sgwpio ac arllwys y reis gan ddefnyddio offer gwahanol fel powlenni llai, twndish, llwyau, tiwbiau neu hambyrddau ciwbiau iâ i sgwpio. Bydd eich plentyn wrth ei fodd yn gweld y reis yn ‘symud’ ac yn llifo.
- Anogwch eich plentyn i roi ei ddwylo yn y reis i deimlo siapiau a gweadau gwahanol y reis.
- Ceisiwch guddio darnau o bosau neu ddarnau’r wyddor yn y reis i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, a bydd hyn yn ei wneud yn fwy o hwyl roi’r pos yn ôl at ei gilydd.
- Gallech gael te parti reis! Rhowch y reis mewn tebot chwarae ac arllwyswch i gwpanau fel rhan o de parti gyda theganau eraill.
- Ychwanegwch deganau anifeiliaid, deinosoriaid neu unrhyw greaduriaid eraill i’r reis – gallech naill ai eu cuddio er mwyn i’ch plentyn chwilio drwy’r reis i’w canfod, neu chwarae gyda nhw yn unig.
- Defnyddiwch gloddwyr neu dryciau bach eich plentyn i balu’r reis ac esgus ei fod yn safle adeiladu.
- Gallech gadw’r reis yn y bagiau hefyd i’ch plentyn chwarae gyda nhw – byddant yn dwli gallu teimlo’r reis drwy’r bagiau.
- Gallech ychwanegu sawr i’r reis hefyd. Gellir defnyddio lemwn neu oren wedi’i wasgu i mewn i’r reis yn ogystal â’r lliw bwyd, neu berarogl naturiol neu hyd yn oed perlysiau.
Gweithgareddau ar gyfer babanod 2 – 5 mlwydd oed
- Gwnewch weithgareddau crefft gyda’ch reis enfys – defnyddiwch gerdyn neu bapur plaen a lliw a glud – defnyddiwch y rhain i greu enfysau lliwgar gyda reis o bob lliw, neu gallech wneud angenfilod neu greaduriaid reis.
Syniadau ac Awgrymiadau
- Gallech ddefnyddio pasta sych yn lle Gall hyn fod yn ffordd dda o ddechrau cyflwyno eich plentyn i weadau gwahanol.
- Defnyddiwch basta o siapiau gwahanol fel penne (tiwbiau), fusilli (troellau), conchiglie (cregyn), farfalle (clymau) a’u hychwanegu i gynhwysydd o faint canolig/mawr.
- I wneud pethau ychydig yn fwy heriol, gallech guddio gwrthrychau bach yn y pasta i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, fel teganau neu bosau bach.
- Unwaith y bydd eich plentyn wedi gorffen chwarae â’r pasta, gellir ei storio mewn cynhwysydd i’w ailddefnyddio.
- Pan fydd eich plentyn yn gyfforddus â gweadau sych, fel pasta a reis, gall symud ymlaen at weadau mwy gwlyb – fel sbageti wedi’i goginio, ceirch gwlyb.
- Mae ambell fath o basta yn dod mewn lliwiau gwahanol, y gallech roi cynnig arnynt hefyd, neu edrychwch ar ein ffilm creu cadwyni pasta ar sut i liwio pasta!
Gellir chwarae gyda cheirch gyda phlant o 6 mis oed ac yn hŷn fel gweithgaredd synhwyraidd a datblygiadol.
Beth fydd ei angen arnoch:
- Ceirch Uwd
- Hambwrdd neu gynhwysydd bas
Pethau ychwanegol dewisol:
- Twmffat
- Jwg
- Powlenni
- Biceri
- Llwyau
- Cloddwyr a cheir
- Set de
- Blociau mega
- Dŵr (dewisol ar gyfer chwarae gwlyb)
Sut i’w wneud:
- Arllwyswch y bag o geirch uwd i mewn i hambwrdd a gadewch i’ch plentyn fynd at i chwarae. Rhowch amser iddo archwilio gwead y ceirch sych gyda’i ddwylo.
- Ar gyfer archwiliad hwyliog pellach, cynigiwch amrywiaeth o wrthrychau iddo sy’n annog sgwpio, arllwys, cloddio ac ati. Gallech hyd yn oed roi hoff deganau eich plentyn bach yno. Fel cloddiwr neu set o geir, set de, blociau mega ac ati.
- Gallech chi hefyd gyflwyno’ch plentyn i ‘chwarae gwlyb’ trwy ychwanegu ychydig o ddŵr at y ceirch. Tynnwch ychydig o geirch o’ch hambwrdd i bowlen ar wahân ac ychwanegwch ychydig o ddŵr yn raddol gyda llwy neu jwg.
- Gadewch iddo chwarae ac archwilio pob lefel o wead, o geirch sych i rai gludiog a gwlyb. Os oes gennych unrhyw fowldiau neu dorwyr cwci, gallai eich plentyn bach gael hwyl yn gwneud siapiau gwahanol pan fydd y ceirch yn wlyb ac yn ludiog.
Beth gall eich plentyn bach ei wneud:
- Mesur, pwyso, cyfrif, sgiliau echddygol manwl
Syniadau ac awgrymiadau
- Gofynnwch i’ch plentyn gymryd llond llaw o geirch a chyfrif nifer y ceirch sydd ganddo yn ei law – gall hyn fod yn fwy addas i blant dros 2 oed.
Mae tyfu o hadau yn ffordd wych o ddysgu’ch plentyn o ble mae bwyd yn dod. Mae’r broses o blannu hedyn mewn pridd, gan ofalu amdano wrth iddo dyfu’n rhywbeth y gallwch chi ei fwyta, yn rhywbeth hudolus i blant ifanc fod yn rhan ohono. Mae’n bwysig eich bod yn dechrau gyda hadau sy’n tyfu’n weddol gyflym – felly mae’n cadw eu diddordeb ac yn rhoi profiad cadarnhaol o arddio iddynt. Mae plentyn hefyd yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd y mae wedi’i dyfu ei hun. Nid oes angen mynediad i ardd i dyfu – y cyfan sydd ei angen arnoch yw compost / pridd, rhywbeth i’w dyfu ynddo a chan dyfrio!
Offer
- Hadau berwr (gallwch gael y rhain o ganolfan arddio)
- Plisgyn ŵy gwag, pot iogwrt neu gwpan papur
- Pinnau ffelt neu frwshys paent a phaent
- Papur cegin
- Gwlân cotwm
- Dŵr
- Llwy de
Sut i’w wneud
- Addurnwch y plisgyn ŵy gwag, y pot iogwrt neu’r cwpan papur gan ddefnyddio’r pennau ffelt neu’r paent a’r brwshys paent. Gallech chi a’ch plentyn dynnu llun wynebau doniol felly pan fydd y berwr yn tyfu bydd yn edrych fel gwallt gwyrdd
- Gwlychwch ychydig o bapur cegin a’i roi ar waelod y plisgyn ŵy, pot iogwrt neu gwpan papur
- Yna ewch ati i wlychu ychydig o wlân cotwm a gosod hwn ar ben y papur cegin. Gadewch fwlch bach (tua 2 – 3cm) rhwng y gwlân cotwm a phen y plisgyn ŵy, pot iogwrt neu gwpan papur
- Rhowch lwy de o hadau’r berwr yn gyfartal dros y gwlân cotwm gwlyb. Gwasgwch nhw i lawr yn ysgafn gyda blaenau eich bysedd
- Rhowch mewn lle cynnes sy’n cael digon o olau haul, fel silff ffenestr, i dyfu
- Ychwanegwch ychydig o ddŵr bob dydd i wneud yn siŵr bod y gwlân cotwm yn aros yn llaith. Dylai’r berwr dyfu mewn 7-10 diwrnod
- Pan fydd y berwr wedi tyfu tua 10cm, torrwch ef gyda phâr o siswrn a’i ychwanegu at frechdan neu rysáit quesadilla.
Syniadau ac awgrymiadau
- Dysgwch beidio â gorddyfrio
- Defnyddiwch gynwysyddion anarferol fel hen sgidiau (y gallwch chi eu paentio) potiau te, hen sosbenni, hen deiar, cwpanau te
Beth fydd ei angen arnoch:
- Sbageti wedi’i goginio a’i oeri
- Lliw bwyd – cynifer o liwiau gwahanol ag yr hoffech
- Hambwrdd mawr
- Amrywiaeth o fodelau bwyd/teganau bach
- Bwced neu gynhwysydd bach
- 3-4 powlen a marciwr parhaol
Cyn i chi ddechrau:
- Coginiwch ac oerwch y sbageti
- Casglwch amrywiaeth o deganau bach
- Os ydych yn defnyddio cerrig bychain, rhifwch nhw o 1-10
Sut i’w greu:
- Rhowch tua 8 diferyn o bob lliw bwyd mewn powlenni ar wahân ac ychwanegu dognau hafal o sbageti wedi’i goginio a’i oeri i’r powlenni.
- Arllwyswch eich sbageti ar arwyneb i’w sychu.
- Unwaith iddo sychu, arllwyswch ef i mewn i fwced neu gynhwysydd ac ychwanegu’r cerrig bychain neu’r teganau.
Sgiliau a ddefnyddir
- Arllwys, cymysgu, cyfrif, sgiliau echddygol manwl
Syniadau ac awgrymiadau
- Rhowch gynnig ar flasu darnau o sbageti sydd wedi’u coginio a’u lliwio – bydd hyn yn helpu i gyflwyno gweadau newydd i blant.
- Anogwch y plant i gymryd rhan trwy ofyn iddynt gymysgu’r lliw bwyd gyda’r sbageti sydd wedi’i oeri a chasglu teganau bach iddynt ddarganfod yn y mwydod sbageti.
- Os yw’r sbageti’n troi’n rhy sych neu’n ludiog, gwnewch yn siŵr fod gennych ddŵr wrth law i’w roi ar y pasta i’w helpu i aros yn feddal ac yn llithrig.
- Gwnewch yn siŵr bod y cerrig bychain neu’r teganau yn rhy fawr i’w llyncu.
- Gallwch ymarfer eich sgiliau cyfrif ac enwi drwy gyfri’r holl deganau/cerrig bychain rydych chi wedi’u canfod a defnyddio geiriau disgrifio ar gyfer pob tegan.
Beth fydd ei angen arnoch:
- 1 cwpan o Flawd
- 1 cwpan o Ddŵr
- 1/2 cwpan o Halen
- 2 lwy de o Hufen Tartar
- 1 llwy fwrdd o Olew Llysiau
- 2 lwy de o liw bwyd
- Cwpan
- Llwy fwrdd
- Llwy de
- Sosban
- Powlen gymysgu
- Chwisg
- Reis
- Rhiniau bwytadwy e.e. mintys, oren
Sut i’w greu
- Anogwch eich plentyn i’ch helpu i fesur eich cynhwysion sych a’u harllwys i mewn i’ch sosban.
- Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i’r cynhwysion sych.
- Mewn llestr ar wahân, cyfunwch y lliw bwyd a’r dŵr, un ar gyfer pob lliw rydych chi’n dymuno ei ddefnyddio. Ychwanegwch eich dŵr lliw i’ch sosban o gynhwysion sych.
- Rhowch gyfle i’ch plentyn i helpu gyda chwipio eich cynhwysion cyn cynhesu’r gymysgedd i gael gwared ar unrhyw lympiau neu gyfuno’r holl gynhwysion.
- Coginiwch ef dros wres canolig, gan barhau i’w gymysgu tan iddo droi’n dalp trwchus.
- Rhowch y toes chwarae ar arwyneb glân a’i dylino nes ei fod yn llyfn.
Beth y gall y plant ei wneud (gyda chymorth oedolyn)
- Mesur y cynhwysion sych
- Mesur, arllwys a chymysgu’r lliw bwyd a’r dŵr
- Cyfuno a chwipio cynhwysion sych a gwlyb
- Troi’r gymysgedd
- Tylino’r toes unwaith iddo oeri
Sgiliau
- Mesur, arllwys, chwipio, tylino
Syniadau ac awgrymiadau
- Gallwch chi bob amser ddefnyddio dŵr oer yn hytrach na choginio ar y stôf. Cymysgwch ef tan iddo ffurfio pelen lyfn o does chwarae.
- Bydd y toes yn para am ychydig wythnosau mewn cynhwysydd y gellir ei selio’n dynn neu fag ‘zip-lock’.
- Gan ddefnyddio glanhawyr pibell/gwellt a llygaid siglog, gallwch droi eich peli toes yn fwystfilod toes.
- Gallwch chi hefyd greu rhai peli toes newydd gydag aroglau naturiol, lliw a gweadau ychwanegol, er enghraifft: ychwanegu ambell lwy de o groen sitrws wedi’i gratio neu fwyar wedi’u stwnshio (ffres neu wedi’u dadrewi) i’r toes yn y camau olaf. Gallwch chi hyd yn oed ychwanegu rhai perlysiau a sbeisys neu riniau bwytadwy fel fanila neu fintys.
Fideos Gweithgareddau Bwyd
Syniadau Chwarae Gweithredol
Sgiliau a ddatblygir: cydgysylltu, sgiliau echddygol
Beth fydd ei angen arnoch: pêl feddal (neu rholiwch 3 – 4 sanau i mewn i bêl)
Dan do
0 – 12 mis
Cicio’r Bêl:
Mae eich babi’n gorwedd ar ei gefn wrth i chi benlinio yn ei wynebu gyda’r bêl rhwng eich pengliniau. Anogwch eich babi i gicio’r bêl.
Rholio’r bêl
Gyda chi a’ch babi yn gorwedd ar eich boliau yn wynebu eich gilydd, rholiwch y bêl i’ch babi a’i annog i’w wthio’n ôl atoch chi. Wrth iddo wella, symudwch ymhellach i ffwrdd i’w wneud yn fwy heriol.
Estyn am y bêl:
Pan fydd eich babi’n gallu dal ei ben i fyny wrth orwedd ar ei fol, rhowch y bêl ychydig y tu hwnt i’w gyrraedd a’i annog i estyn allan a’i fachu.
12 mis – 2 flwydd oed
Cicio’r bêl:
Pan fydd eich plentyn yn gallu cerdded, ceisiwch ei annog i gerdded tuag at y bêl a’i chicio
Dal y bêl:
Daliwch freichiau eich plentyn allan a dangoswch iddo sut i ddal pêl. Ceisiwch eistedd neu sefyll yn agos ato i ddechrau, i’w gwneud yn haws iddo.
2 – 5 mlwydd oed
Pêl fasged:
Gofynnwch i’ch plentyn daflu’r bêl i fasged papur gwastraff, basged ddillad ac ati. Ceisiwch gynyddu’r pellter wrth iddo ddysgu taflu’n fwy cywir
Awyr agored
2 – 5 mlwydd oed
Driblo’r bêl:
Crëwch gwrs rhwystr hawdd ac anogwch eich plentyn i driblo’r bêl o’i chwmpas (fel pêl-droed).
I fyny yn yr awyr:
Ceisiwch weld pa mor hir y gall eich plentyn barhau i daro’r bêl yn yr awyr gyda’i ddwylo, heb iddi ddisgyn i’r ddaear. Pan fydd yn hyderus yn gwneud hyn ymunwch â’ch plentyn a tharo’r bêl yn ôl ac ymlaen i’ch gilydd (gyda’ch dwylo) a gweld pa mor hir y gallwch gadw’r ‘rali’ i fynd.
Sgiliau a ddatblygir: ystwythder, cydgysylltu, sgiliau echddygol, cydbwysedd, meddwl, datrys problemau
Yr hyn y bydd ei angen arnoch: eitemau cartref symudol i gropian, dringo a neidio drostynt ac oddi tanynt (e.e. clustogau, bocsys cardbord gwag, cadeiriau, papur/cerdyn).
Dan do
0 – 12 mis
Rhowch wrthrychau amrywiol o amgylch eich ystafell fyw. Ceisiwch amrywio’r uchder a’r pellter rhwng y gwrthrychau ac anogwch eich plentyn i gropian a dringo drostynt, oddi tanynt neu drwyddynt. Gallech chwarae hwn mewn gardd hefyd.
12 mis – 2 flwydd oed
Gwnewch y cwrs ychydig yn fwy heriol drwy ychwanegu ychydig mwy o rwystrau, gan ddefnyddio’r gwrthrychau tebyg i’r rhai ar gyfer 0 – 12 mis.
Awyr agored
2 – 5 mlwydd oed
Gwnewch y cwrs ar y cyd â’ch plentyn, yn yr ardd, gan adael iddo ddewis rhai o’r rhwystrau. Wrth iddo ddod yn fwy ystwyth, ychwanegwch neidiau a gwrthrychau isel i gydbwyso arnynt. Helpwch eich plentyn i ddod o hyd i’w lefel ei hun o ystwythder. I’w wneud yn fwy o hwyl, anogwch eich plentyn i deithio o amgylch y cwrs rhwystrau fel ei hoff chwilen / anifail (glöyn byw, pryf cop, morgrugyn, gwenynen, broga, ac ati).
Sgiliau a ddatblygir: cydgysylltu rhwng y dwylo a’r llygaid, sgiliau echddygol, meddwl, datrys problemau
Beth fydd ei angen arnoch: Ar gyfer y fasged drysor bydd angen eitemau cartref diogel arnoch o bob cwr o’ch cartref
(e.e. llwyau, sbwng meddal, hen declynnau rheoli’r teledu) a basged / blwch bach. Ar gyfer yr helfa drysor bydd angen hoff deganau, eitemau cyfarwydd o’r cartref, ac ati arnoch.
Dan do
0 – 12 mis
Basged drysor:
Rhowch y gwrthrychau ar gyfer y fasged drysor mewn basged neu flwch bach. Anogwch eich babi i archwilio’r fasged drysor, dangoswch iddo sut i dynnu eitemau allan a’u rhoi yn ôl i’r fasged drysor a gadael iddo wneud yr un peth. Gadewch iddo chwarae gyda’r eitemau o’r fasged drysor hefyd.
12 mis – 2 flwydd oed
Helfa Drysor Cuddio:
Dangoswch wrthrychau i’ch plentyn rydych chi’n mynd i’w cuddio. Gofynnwch iddo edrych i ffwrdd wrth i chi eu cuddio, ond ddim yn rhy dda. Anogwch eich plentyn i ddod o hyd i’r eitemau – gan ei helpu ar hyd y. ffordd drwy ddweud wrtho os ydynt yn agos (“cynnes / cynhesach”) neu ymhellach i ffwrdd (“oerach”). Gallech hefyd chwarae hwn yn yr awyr agored.
2 – 5 mlwydd oed
Rhowch wrthrychau lliw gwahanol mewn basged drysor wedi’i llenwi â darnau eraill o bapur sidan. Yna gofynnir i’r plant dynnu gwrthrych o’r lliw a ddewiswyd o’r blwch a dod ag ef yn ôl atoch. Bydd hyn yn parhau nes bod yr holl wrthrychau wedi’u casglu. I’w wneud yn gystadleuol, gallech drefnu ras gyfnewid – yr un cyntaf yn ôl gyda’r holl eitemau a gasglwyd yn ennill!
Awyr agored
2 – 5 mlwydd oed
Helfa Drysor Cuddio:
Yn debyg i’r un ar gyfer babanod 12 mis – 2 flynedd ond gwnewch hi’n anoddach i’r plentyn ddod o hyd i’r eitemau. Gall hyn fod yn haws i’w chwarae yn yr awyr agored mewn gardd. Gallwch hefyd annog eich plentyn i gasglu a chuddio eitemau wrthych chi neu ei ffrindiau
Fel arall, rhowch wrthrychau lliw gwahanol mewn basged drysor wedi’i llenwi â darnau eraill o bapur sidan. Yna gofynnir i’r plant dynnu gwrthrych o’r lliw a ddewiswyd o’r blwch a dod ag ef yn ôl atoch. Bydd hyn yn parhau nes bod yr holl wrthrychau wedi’u casglu.
Sgiliau a ddatblygir: gwrando, ystwythder, cydgysylltu, sgiliau echddygol
Beth fydd ei angen arnoch: 2 glustog
Dan do
0 – 12 mis
Gofynnwch i’ch plentyn eistedd gyda chi. Pan fyddwn yn gweiddi ‘gwyrdd’, dechreuwch glapio ei ddwylo mewn siâp cylch. Ar ‘oren’, dylech glapio ei ddwylo mewn un lle. Pan fyddwch chi’n gweiddi ‘coch’, dylai ddal ei ddwylo gyda’i gilydd a pheidio â chlapio o gwbl.
12 mis – 2 flwydd oed
Gadewch i’r plant i gyd redeg mewn cylch i gyfeiriad clocwedd. Pan fyddwch yn dweud ‘coch’ dylent roi’r gorau i symud, pan fyddwch yn dweud ‘oren’ dylent redeg/cerdded yn y fan a’r lle, ac ar ‘coch’ dylent sefyll yn llonydd.
2 – 5 mlwydd oed
Rhowch 2 glustog yn eithaf pell ar wahân yn eich ystafell fyw. Anogwch eich plentyn i deithio o’u cwmpas mewn ffigur 8. Pan fyddwch chi’n dweud ‘coch’, dylai eich plentyn stopio, pan fyddwch chi’n dweud ‘oren’ dylai redeg yn y fan a’r lle a phan fyddwch chi’n dweud ‘gwyrdd’ dylai redeg o amgylch y clustogau mewn ffigur 8. Ceisiwch amrywio’r gorchmynion. Pan fydd yn dod i arfer â’r gorchmynion ychwanegwch fwy o bethau fel: bwmp cyflymder, gwrthdroi, jam traffig, ac ati. Gellid chwarae hwn yn yr awyr agored hefyd gan ddefnyddio cadeiriau, cotiau neu fagiau
Sgiliau a ddatblygir: cydgysylltu rhwng y dwylo a’r llygaid, sgiliau cyfrif, sgiliau echddygol
Beth fydd ei angen arnoch: potel o swigod chwythu
Dan do
0 – 12 mis
Rhowch eich plentyn i orwedd ar ei gefn a chwythu swigod yn yr awyr. Dangoswch iddo sut i’w popio gyda’ch llaw neu fysedd a’i annog i wneud yr un peth (pan fydd unrhyw swigod yn mynd yn agos ato). Os gall eich plentyn gropian, chwythwch swigod allan o’i gyrraedd fel ei fod yn cropian tuag atynt a’u popio wrth iddynt lanio ar y llawr.
Awyr agored
12 mis – 2 flwydd oed
Chwythwch swigod o amgylch yr ardd neu ardal wag yn y parc i’ch plentyn fynd ar eu hôl a’u popio
2 – 5 mlwydd oed
Chwythwch swigod o amgylch yr ardd neu ardal wag yn y parc i’ch plentyn fynd ar eu hôl a’u popio. Gall gyfrif faint mae’n eu popio bob tro y byddwch chi’n chwythu rhai. Gallai eich plentyn chwythu swigod i chi eu popio hefyd. Cyfrwch faint o swigod rydych chi a’ch plentyn yn eu popio i weld pwy all popio’r mwyaf.
Sgiliau a ddatblygir: cydgysylltu rhwng y dwylo a’r llygaid, gwaith tîm, sgiliau cyfrif, sgiliau echddygol
Beth fydd ei angen arnoch: balŵn
Dan do
12 mis – 2 flwydd oed
Batiwch falŵn chwyddedig tuag at eich plentyn a’i annog i’w ddal neu ei fatio’n ôl / i fyny yn yr awyr
2 – 5 mlwydd oed
Batiwch falŵn chwyddedig tuag at eich plentyn a’i annog i’w fatio’n ôl. Ceisiwch gadw’r balŵn rhag disgyn i’r llawr cyhyd â phosibl. Gall plant eraill chwarae hefyd. Gofynnwch i’ch plentyn / plant gyfrif bob tro mae rhywun yn batio’r balŵn, i gadw sgôr. Gwnewch nodyn o’r sgôr uchel a gweld a allwch ei churo’r tro nesaf y byddwch yn chwarae.
Sgiliau a ddatblygi: gwrando, sgiliau echddygol, cof
Yr hyn y bydd ei angen arnoch: soffa, bwrdd, blanced, ac ati
Dan do
2 – 5 mlwydd oed
Mae’r ‘Capten’ yn dweud y gorchmynion ac mae eich plentyn / plant yn gwrando ac yn dilyn. Gallwch feddwl am eich gorchmynion eich hun ond dyma rai syniadau:
- ‘I’r llong’ (mae pawb yn rhedeg i’r ‘llong’ – e.e. soffa)
- ‘Taro’r dec’ (mae pawb yn gorwedd i lawr ar eu boliau)
- ‘Perisgop i fyny’ (mae pawb yn gorwedd ar eu cefnau ac yn rhoi un goes i fyny)
- ‘Ymosodiad siarc’ (mae pawb yn rhedeg i ‘ynys’ e.e. blanced ar y llawr)
Sgiliau a ddatblygir: sgiliau echddygol, meddwl, datrys problemau
Beth fydd ei angen arnoch:
– Sylfaen: bwrdd, gwely bync, cadeiriau, soffa, bocsys, ac ati
– Cysgod: tywelion mawr, cynfasau gwely, blancedi mawr
– Addurno: gobenyddion, clustogau, blancedi, goleuadau tylwyth teg, teganau
Dan Do neu yn yr Awyr Agored
2 mis – 2 flwydd oed
Ewch ati i adeiladu cuddfan i’ch plentyn chwarae ynddo. Gallwch lusgo cynfasau gwely dros fwrdd neu ar ochr gwelyau bync. Rhowch flanced ar gefn soffa a chadeiriau. Ceisiwch sicrhau ymylon y flanced i’w chadw yn ei lle. Gallech ddefnyddio gwrthrych trwm, fel tuniau, neu begiau dillad. Byddwch yn greadigol a rhowch gynnig ar ffyrdd eraill o greu cuddfan. Ychwanegwch rai clustogau, gobenyddion a/neu flancedi i wneud y guddfan yn gyfforddus ac yn glyd.
2 – 5 mlwydd oed
Adeiladwch guddfan gyda’ch plentyn, gan ddefnyddio’r awgrymiadau uchod.
Benefits of Being Active
Getting Started with Solid Foods
Introducing solids is an important stage of development. Most babies are ready to be introduced to solid foods at around 6 months, alongside baby’s usual breast milk or first infant formula. Before 6 months, babies get all the nutrients that they need from breastmilk or infant formula.
In Cardiff and Vale, you will be invited by your Health Visitor to attend an introducing solids group. If you are in a Flying Start area, you will be offered a visit at home to support you with introducing solids.
Speak to your health visitor if you have any questions about introducing solids.
Our friends over at Flying Start have made these easy to understand videos to support you with introducing solids.
For more support visit Cardiff and Vale UHB website Introducing your Baby to Solid Foods – Keeping Me Well.
Suitable foods and textures
Keeping your Baby Safe
Progressing to Family Meals
Foodwise in Pregnancy
You can book a space on a group using this form: https://forms.office.com/r/7E0J8FNMM7
Unable to attend group? Why not try the free NHS App!