Rieni / Gofalwyr

Rhaglenni i Deuluoedd 

Gwybodaeth

Maint Dognau

Maint Cyfran Fideo

Syniadau am fyrbrydau iach

Gall byrbrydau iach fod yn gyfle gwych i roi’r prif faetholion sydd eu hangen ar eich plentyn ar gyfer iechyd a datblygiad cyffredinol. Ceisiwch ganolbwyntio ar gynnig byrbrydau o’r prif grwpiau bwyd

  • Ffrwythau a Llysiau
  • Carbohydradau – bara, reis, tatws, pasta a grawnfwydydd eraill
  • Protein – cig, pysgod, wyau a ffa
  • Llaeth a chynnyrch llaeth

Rydym yn gwybod nad yw plant yng Nghymru yn bwyta digon o fwydydd o’r grŵp bwyd ffrwythau a llysiau. Mae byrbryd yn gyfle gwych i gynnig y bwydydd hyn naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â grŵp bwyd arall, er enghraifft gallech roi cynnig ar ychwanegu ffrwythau at iogwrt neu ychwanegu llysiau at gacen reis. Gallech hefyd roi cynnig ar ein rysáit Wynebau Ffrwyth.

Mae carbohydradau yn rhoi’r egni sydd ei angen ar blant i fod yn actif felly gallant fod yn syniad gwych am fyrbryd. Ond cofiwch sicrhau nad oes ganddynt fraster, siwgr na halen ychwanegol. Gallai rhai byrbrydau carbohydrad gynnwys cacennau reis, cacennau ceirch, wrap bach neu dost. Gallwch hefyd ychwanegu rhai ffrwythau neu lysiau atynt i roi hwb i’r fitaminau a’r mwynau.

Rydym yn gwybod y gall bwydydd protein wneud i blant deimlo’n fwy llawn am gyfnod hirach, wrth ddarparu ffynhonnell dda o haearn hefyd. Gall byrbrydau gynnwys menyn cnau, wyau a hwmws.

Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn darparu calsiwm a phrotein i blant, sy’n bwysig ar gyfer esgyrn a dannedd cryf. Gall bwyta’r bwydydd hyn fel byrbrydau helpu i sicrhau eu bod yn cael digon o’r maetholion hyn. Gallech roi cynnig ar iogwrt plaen gyda ffrwythau ychwanegol neu gaws ar graceri

Yn aml, gall opsiynau byrbryd llai iach olygu rhoi llawer o fraster, siwgr a halen i blant. Ceisiwch gyfyngu ar fwydydd fel creision, siocled, cacennau, losin, bisgedi a hufen iâ.

Mae hefyd yn bwysig ystyried faint o’r rhain y mae eich plentyn yn bwyta. Gall gormod o fyrbrydau eu llenwi, gan eu gwneud yn llai tebygol o fwyta eu prif bryd bwyd. Fel canllaw, gallwch gynnig 2 fyrbryd iach bob dydd. Mae plant wrth eu bodd yn paratoi byrbrydau iach, felly ceisiwch eu hannog i helpu i daenu bwydydd a’u cefnogi i dorri bwydydd.

Dyma rai syniadau am fyrbrydau sy’n cynnwys rhai o’r prif grwpiau bwyd:

AWGRYM – Cofiwch edrych ar label byrbryd eich plentyn i sicrhau ei fod yn ddewis iach!

Sardîns ar dost gyda seleri

Cramwyth (crumpets) gyda chaws meddal a sleisiau pupur

Brechdanau bach afocado a salsa tomato

Cacennau ceirch gyda menyn cnau Brasil a satswmas

Fideo siwgr mewn byrbrydau a diodydd

Animeiddiad hoff fyrbrydau

Aelodau tîm NYLO yn siarad am eu hoff fyrbrydau.

Delio â phlant sy’n ffyslyd gyda’u bwyd

Mae plant yn aml yn mynd trwy gyfnodau o fwyta ffwdan. Mae’r fideo hwn yn rhannu awgrymiadau ar sut i annog eich plentyn i roi cynnig ar fwydydd newydd.

Prydau braf

Mae tîm NYLO yn dangos i ni sut maen nhw’n paratoi ac yn mwynhau amser bwyd gyda’i gilydd.

Bwyta’n fympwyol mewn plant

Syniadau ar gyfer coginio gyda phlant

Manteision coginio gyda phlant

Gall coginio gyda’ch plentyn o oedran ifanc gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu gwerthfawr. Gall rhoi cyfle i blant archwilio bwyd mewn ffordd ddiogel a hwyliog y tu allan i amser bwyd helpu i leihau pryder ynghylch bwyd. Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwyd newydd os ydynt wedi gweld o ble y daw ac wedi helpu gyda’r gwaith paratoi. Gall cael profiadau cadarnhaol dro ar ôl tro yn ystod gweithgareddau bwyd gynyddu hyder plentyn o amgylch bwyd, a helpu i sicrhau arferion bwyta iach yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gall coginio helpu i ddatblygu llawer o sgiliau

  • Cydlynu – torri, troi, gwasgu, stwnsio, cymysgu, rhwygo
  • Sgiliau echddygol manw – gwasgaru, llwyo, taenu, torri, tylino
  • Annibyniaeth – cyflawni tasgau ar eu pen eu hunain, pwyso a golchi ffrwythau a llysiau
  • Datblygiad gwybyddol – meddwl, datrys problemau a chreadigrwydd
  • Achos ac effaith
  • Iaith a rhifedd

Cofiwch y gall coginio gyda’ch un bach hefyd fod yn llawer o hwyl!

Recipes for cooking with children

Ryseitiau byrbrydau iach

Animeiddiad wynebau ffrwyth

Nancy Nectarîn yn siarad am ei hoff weithgaredd bwyd a byrbryd.

Syniadau ar gyfer gweithgareddau 

Bydd eich plant bach wrth eu boddau yn chwarae gyda reis heb ei goginio, mae’n gynhwysyn amrywiol y gellir ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol – dro ar ôl tro. Gallwch ddefnyddio’r reis fel ag y mae, neu gallwch ei liwio’n wahanol liwiau’r enfys, neu hyd yn oed ychwanegu sawrau gwahanol – a fydd yn datblygu dychymyg a phrofiad synhwyraidd eich plentyn hyd yn oed yn fwy!

Beth bydd eich angen arnoch:

  • Bag mawr o reis
  • Bagiau plastig ailseliadwy
  • Lliw bwyd mewn amrywiaeth o liwiau gwahanol
  • Finegr (dewisol)
  • Hambwrdd
  • Cynhwysydd mawr

Sut i liwio eich reis

  1. Rhannwch y reis rhwng y bagiau seliadwy.
  2. Ychwanegwch ychydig ddiferion o bob lliw rydych yn ei ddefnyddio i bob bag o reis.
  3. Seliwch y bag a’i ysgwyd i ddosbarthu’r lliw. Mae hyn yn rhywbeth y bydd eich plentyn yn mwynhau ei wneud!
  4. Gallwch ychwanegu llwyaid o finegr, oherwydd gall hyn helpu’r lliw i bara’n hirach.
  5. Lledaenwch y reis ar hambwrdd i sychu – dylai fod yn sych o fewn ychydig oriau.

Unwaith y bydd y reis yn sych, arllwyswch i mewn i gynhwysydd mawr neu bowlen fas a rhowch gynnig ar y gweithgareddau gwahanol hyn! Os ydych yn defnyddio cynhwysydd llai o faint, gallai fod yn syniad rhoi lliain neu fat chwarae oddi tano i gadw’r reis mewn un lle!

Gweithgareddau ar gyfer babanod 12 mis – 2 flwydd oed

  • Os ydych yn defnyddio lliwiau gwahanol gallech eu trefnu mewn patrwm neu gymysgu’r lliwiau gyda’i gilydd.
  • Rhowch gynnig ar sgwpio ac arllwys y reis gan ddefnyddio offer gwahanol fel powlenni llai, twndish, llwyau, tiwbiau neu hambyrddau ciwbiau iâ i sgwpio. Bydd eich plentyn wrth ei fodd yn gweld y reis yn ‘symud’ ac yn llifo.
  • Anogwch eich plentyn i roi ei ddwylo yn y reis i deimlo siapiau a gweadau gwahanol y reis.
  • Ceisiwch guddio darnau o bosau neu ddarnau’r wyddor yn y reis i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, a bydd hyn yn ei wneud yn fwy o hwyl roi’r pos yn ôl at ei gilydd.
  • Gallech gael te parti reis! Rhowch y reis mewn tebot chwarae ac arllwyswch i gwpanau fel rhan o de parti gyda theganau eraill.
  • Ychwanegwch deganau anifeiliaid, deinosoriaid neu unrhyw greaduriaid eraill i’r reis – gallech naill ai eu cuddio er mwyn i’ch plentyn chwilio drwy’r reis i’w canfod, neu chwarae gyda nhw yn unig.
  • Defnyddiwch gloddwyr neu dryciau bach eich plentyn i balu’r reis ac esgus ei fod yn safle adeiladu.
  • Gallech gadw’r reis yn y bagiau hefyd i’ch plentyn chwarae gyda nhw – byddant yn dwli gallu teimlo’r reis drwy’r bagiau.
  • Gallech ychwanegu sawr i’r reis hefyd. Gellir defnyddio lemwn neu oren wedi’i wasgu i mewn i’r reis yn ogystal â’r lliw bwyd, neu berarogl naturiol neu hyd yn oed perlysiau.

Gweithgareddau ar gyfer babanod 2 – 5 mlwydd oed

  • Gwnewch weithgareddau crefft gyda’ch reis enfys – defnyddiwch gerdyn neu bapur plaen a lliw a glud – defnyddiwch y rhain i greu enfysau lliwgar gyda reis o bob lliw, neu gallech wneud angenfilod neu greaduriaid reis.

Syniadau ac Awgrymiadau

  • Gallech ddefnyddio pasta sych yn lle Gall hyn fod yn ffordd dda o ddechrau cyflwyno eich plentyn i weadau gwahanol.
  • Defnyddiwch basta o siapiau gwahanol fel penne (tiwbiau), fusilli (troellau), conchiglie (cregyn), farfalle (clymau) a’u hychwanegu i gynhwysydd o faint canolig/mawr.
  • I wneud pethau ychydig yn fwy heriol, gallech guddio gwrthrychau bach yn y pasta i’ch plentyn ddod o hyd iddynt, fel teganau neu bosau bach.
  • Unwaith y bydd eich plentyn wedi gorffen chwarae â’r pasta, gellir ei storio mewn cynhwysydd i’w ailddefnyddio.
  • Pan fydd eich plentyn yn gyfforddus â gweadau sych, fel pasta a reis, gall symud ymlaen at weadau mwy gwlyb – fel sbageti wedi’i goginio, ceirch gwlyb.
  • Mae ambell fath o basta yn dod mewn lliwiau gwahanol, y gallech roi cynnig arnynt hefyd, neu edrychwch ar ein ffilm creu cadwyni pasta ar sut i liwio pasta!

Fideos Gweithgareddau Bwyd

Syniadau Chwarae Gweithredol

Benefits of Being Active

Getting Started with Solid Foods

Introducing solids is an important stage of development. Most babies are ready to be introduced to solid foods at around 6 months, alongside baby’s usual breast milk or first infant formula. Before 6 months, babies get all the nutrients that they need from breastmilk or infant formula.

In Cardiff and Vale, you will be invited by your Health Visitor to attend an introducing solids group. If you are in a Flying Start area, you will be offered a visit at home to support you with introducing solids.

Speak to your health visitor if you have any questions about introducing solids.

Our friends over at Flying Start have made these easy to understand videos to support you with introducing solids.

For more support visit Cardiff and Vale UHB website Introducing your Baby to Solid Foods – Keeping Me Well.

Suitable foods and textures

Keeping your Baby Safe

Progressing to Family Meals

Foodwise in Pregnancy

You can book a space on a group using this form: https://forms.office.com/r/7E0J8FNMM7

Unable to attend group? Why not try the free NHS App!

Download the app today via the App store on any mobile device.